Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cymeradwyaeth Aur ar gyfer bwyd yn ysgolion Conwy

Cymeradwyaeth Aur ar gyfer bwyd yn ysgolion Conwy


Summary (optional)
start content

Cymeradwyaeth Aur ar gyfer bwyd yn ysgolion Conwy

Mae’r fwydlen cinio ysgol bresennol a weinir tan y Pasg wedi derbyn Tystysgrif Cydymffurfiaeth Cymeradwyaeth Aur gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

Meddai’r Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg: “Dyma’r tro cyntaf i Wasanaeth Arlwyo Conwy wneud cais am y dystysgrif cydymffurfiaeth, ac mae’n bleser derbyn Cymeradwyaeth Aur am y bwyd a diod a weinir. 

“Gall y bwyd a weinir mewn ysgolion wneud cyfraniad cadarnhaol at roi diet iach a chytbwys i blant a phobl ifanc a’u hannog i ddatblygu arferion bwyta iach.”

Mae’n rhaid i’r bwyd a’r diodydd a ddarperir ym mhob ysgol a gynhelir fodloni Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2013. Mae’r rheoliadau’n nodi safonau maeth a gwerthoedd egni a maetholion ar gyfer gofynion bwyd a diodydd yn ystod y diwrnod ysgol.

Ymwelwch â Bwyd mewn Ysgolion am ragor o wybodaeth am y bwyd yn ein hysgolion.

Wedi ei bostio ar 14/11/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content