Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cyrchoedd ar dybaco a fêps anghyfreithlon

Cyrchoedd ar dybaco a fêps anghyfreithlon


Summary (optional)
start content

Cyrchoedd ar dybaco a fêps anghyfreithlon

Cafwyd cyrchoedd ar dri eiddo yn Sir Conwy ddoe (23/11/23) yn targedu pobl sy’n gwerthu tybaco a fêps anghyfreithlon.  

Yn dilyn nifer o gwynion mae swyddogion o Safonau Masnach Conwy wedi cefnogi swyddogion o Ymgyrch Cece, Wagtail UK a Gorfodaeth Mewnfudo ac wedi ymweld ac archwilio’r tri eiddo ac wedi mynd â chyfanswm o gynnyrch anghyfreithlon ohonynt.

Mae’r eitemau hyn yn cynrychioli risg amlwg i iechyd y cyhoedd cyffredinol ac nid yw’n glir beth yn union sydd y tu mewn iddyn nhw.  Mae gwerthu’r eitemau hyn hefyd yn rhoi busnesau sy’n gwerthu cynnyrch cyfreithlon mewn risg am eu bod nhw’n colli busnes i’r siopau diegwyddor hyn.

Meddai Safonau Masnach Cymru:  “Mae ysmygu’n lladd dros 5,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn a bydd bron i hanner yr holl ysmygwyr hirdymor yn marw o ganlyniad uniongyrchol i’w harferiad. Tybaco anghyfreithlon yw sigaréts neu dybaco rholio sydd wedi’i smyglo a lle nad oes unrhyw dollau wedi’u talu arno.

“Mae hyn yn golygu ei fod yn gallu cael ei werthu am lai na hanner pris tybaco cyfreithlon yn yr economi anffurfiol, sy’n creu problem sylweddol yn ein cymunedau.” Mae’n ei gwneud yn llawer haws i blant gael gafael ar dybaco a fêps ac yn arwain at ddibyniaeth am oes ac yn ei gwneud yn llawer mwy anodd i ysmygwyr presennol roi’r gorau iddi.”

“Mae canlyniadau’r cyrchoedd yma’n dangos pa mor effeithiol mae gweithrediadau ar y cyd yn gallu bod. “Mae tybaco anghyfreithlon yn cael ei ddosbarthu a’i gyflenwi drwy rwydweithiau trosedd trefnedig – mae hyn yn aml yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol arall ac mae’n dod â throsedd i’n cymunedau lleol.”

Mae tybaco anghyfreithlon yn niweidio eich cymunedau chi. Rhowch wybod i ni os ydych yn ymwybodol o unrhyw sigaréts amheus yn eich hardal chi. Gallwch roi gwybod yn gyfrinachol ar: NO IFS. NO BUTTS. - Adrodd Tybaco Anghyfreithlon (noifs-nobutts.co.uk)

 

Wedi ei bostio ar 24/11/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content