Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Setliad Llywodraeth Leol

Setliad Llywodraeth Leol


Summary (optional)
start content

Setliad Llywodraeth Leol

Ymateb y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i’r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro:

Rwy’n siomedig iawn, unwaith eto, mai setliad Conwy yw’r isaf yng Nghymru.  
Dim ond cynnydd o 2% fydd Conwy yn ei gael, pan fydd ardaloedd eraill yn cael cynnydd o 4.7%, a'r cyfartaledd ar draws Cymru yn 3.1%.

Ac er y croesewir unrhyw gynnydd, ni fydd yn ddigon i gwrdd â’r diffyg ariannol y mae’r Cyngor yn ei wynebu o ganlyniad i ddyfarniadau cyflog cenedlaethol, chwyddiant, prisiau ynni a thanwydd, a’r cynnydd yn y galw am wasanaethau.

Byddwn yn astudio’r setliad dros dro yn fanylach dros yr wythnosau nesaf er mwyn deall yn llawn y goblygiadau i’r gwasanaethau a ddarparwn. Mae llawer o waith i’w wneud, a phenderfyniadau anodd i’w gwneud mae gen i ofn.

20/12/23

 

Dolen i ddatganiad Llywodraeth Cymru: Datganiad Ysgrifenedig: Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2024-25 (20 Rhagfyr 2023) | LLYW.CYMRU

Wedi ei bostio ar 20/12/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content