Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Memory Garden at Cae Derw park

Gardd Gofio ym Mharc Cae Derw


Summary (optional)
start content

Gardd Gofio ym Mharc Cae Derw

Mae Gardd Gofio wedi’i chreu ym Mharc Cae Derw, Cyffordd Llandudno, gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wrth weithio gyda grŵp Cyfeillion Parc Cae Derw.

Mae’r ardd heddychlon wedi’i chynllunio fel lle i drigolion eistedd a myfyrio, wedi’i hadeiladu gyda chyllid Adran 106 gan ddatblygwyr ar gyfer prosiectau cymunedol. Ynddi, mae pergola a meinciau i eistedd gyda goleuadau solar, gwlâu blodau o blastig wedi’i ailgylchu, a pherllan ffrwythau Cymreig sy’n cynnwys detholiad o goed afal, eirin a cheirios lleol.

Mae Cyfeillion Cae Derw yn grŵp gwirfoddol, gweithgar sydd wedi gweithio gyda’r Cyngor ers blynyddoedd ar ddatblygu’r parc. Mae’r grŵp yn defnyddio llawer ar y parc ar gyfer digwyddiadau cymunedol, gwyliau yn yr haf a gemau pêl-droed lleol. Daeth y cysyniad o Ardd Gofio o ddigwyddiad Nadolig blynyddol y grŵp a gosod coeden Nadolig yn y parc.

Heb bŵer prif gyflenwad i oleuo’r goeden Nadolig, penderfynodd y trigolion ei haddurno gyda pheli â llawysgrifen arnynt yn coffáu anwyliaid roeddent wedi’u colli. Y llynedd, rhoddwyd mwy na 200 o addurniadau cofio ar y goeden. O hyn, datblygodd syniad am le i’w ddefnyddio drwy’r flwyddyn, lle gallai pobl eistedd a myfyrio mewn gardd fwy pwrpasol.

Cynlluniodd y gymuned ardal yr Ardd Gofio, a darparodd y Cyngor y llafur a’r arbenigedd i greu’r ardd mewn pryd at Nadolig 2023.

 

 

Wedi ei bostio ar 03/01/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content