Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion More new shelters for Llandudno promenade

Mwy o lochesau newydd ar gyfer promenâd Llandudno


Summary (optional)
start content

Mwy o lochesau newydd ar gyfer promenâd Llandudno

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi llwyddo i sicrhau cyllid pellach ar gyfer disodli pump lloches ar bromenâd ar hyd Traeth y Gogledd yn Llandudno. Bydd Cynllun Pethau Pwysig gan Lywodraeth Cymru yn ariannu disodli tri o’r pump lloches sy’n weddill ar y promenâd a bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn disodli dau loches.  

Ar ôl disodli dau loches y llynedd, bydd y pump lloches sy’n weddill ar Bromenâd Traeth y Gogledd sydd mewn cyflwr gwael ar hyn o bryd yn cael eu hadnewyddu.  

Bydd y strwythurau newydd yn cadw’r dyluniad Fictoraidd ac yn dal yn darparu lle eistedd a lloches, gyda digon o gyfle i fwynhau’r golygfeydd godidog ar draws Bae Llandudno.

Bydd y gwaith o ddymchwel y llochesau yn dechrau yn Ionawr 2024.  Ar ôl dymchwel, bydd contractwyr yn gosod sylfeini newydd ac yn gadael iddynt galedu cyn adeiladu, gyda’r disgwyl i’r gwaith adeiladu’r llochesi dyluniad Fictoraidd newydd fod wedi gorffen erbyn yr haf 2024.  

Wedi ei bostio ar 22/01/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content