Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ailwynebu ffordd: St Asaph Avenue, Bae Cinmel

Ailwynebu ffordd: St Asaph Avenue, Bae Cinmel


Summary (optional)
start content

Ailwynebu ffordd: St Asaph Avenue, Bae Cinmel

Gwaith yn dechrau: Dydd Llun 15 Ionawr 2024 (yn dibynnu ar y tywydd) 
Gwaith yn dod i ben: Dydd Gwener 2 Chwefror 2024 (yn dibynnu ar y tywydd)

Beth sy’n digwydd? 
Rydym ni’n rhoi wyneb newydd yn St Asaph Avenue, o Cader Avenue i gylchfan Parc Menter Tir Llwyd. Fel rhan o’r gwaith, rydym yn tynnu’r cylchfannau bach ac yn ychwanegu marciau ffordd Ildiwch ar gyffyrdd ffyrdd ymyl. 
Bydd ein contractwyr yn gweithio gyda'r nos, rhwng 6pm ac 2am, er mwyn ceisio tarfu cyn lleied â phosibl ar draffig. Bydd y rhan hon o St Asaph Avenue ynghau ar yr amseroedd hyn. 
Bydd ein contractwyr yn gwneud pob ymdrech i wneud y gwaith mwyaf swnllyd yn gynharach yn y nos. 
Siaradwch â’r contractwr rheoli traffig ar y safle i drafod os a phryd y gellir cael mynediad mewn cerbyd. Bydd mynediad yn cael ei ganiatáu i gerddwyr drwy’r amser.

A fydd hyn yn effeithio ar barcio? 
Bydd – ni fydd modd parcio ar rai rhannau o’r ffordd tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn.  

Beth yw rhoi wyneb newydd? 
Cam 1 – tynnu’r wyneb presennol (plaenio yw’r enw ar hyn) 
Cam 2 – addasu neu ailosod y gwaith haearn, tyllau caead a gylïau draeniau 
Cam 3 – glanhau’r wyneb ag ysgubwr mecanyddol 
Cam 4 – gosod haen bondio, i sicrhau bod yr wyneb newydd yn glynu 
Cam 5 – gosod yr wyneb newydd 
Cam 6 – cywasgu a lefelu’r wyneb newydd drwy ddefnyddio rholeri 
Cam 7 - ail-baentio’r marciau ffordd

Mae rhoi wyneb newydd ar ffordd yn broses swnllyd a llychlyd, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.  Bydd y wyneb newydd ar y ffordd yn arwain at daith fwy llyfn a thawel ar y ffordd a bydd manteision hirhoedlog i’r gymuned.  

Cwestiynau?
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337. 

Diolch i chi am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith yma.

Wedi ei bostio ar 09/01/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content