Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion SPF success for 31 projects

Llwyddiant gyda'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer 31 o brosiectau


Summary (optional)
start content

Llwyddiant gyda'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer 31 o brosiectau

Rydym yn fach o gyhoeddi bod disgwyl i 31 o brosiectau yng Nghonwy elwa o gyfran o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog o raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol ar hyd a lled y DU erbyn mis Mawrth 2025.  

Dyfarnwyd dyraniad o dros £20m i Gonwy, i’w fuddsoddi a’i wario erbyn mis Mawrth 2025.

Amcan cyffredinol y Gronfa yw meithrin balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd a nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw cyflawni hyn trwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:

• Cymuned a Lle;

• Cefnogi Busnesau Lleol; a

• Phobl a Sgiliau.

Mae’r prosiectau llwyddiannus yn cynnwys mentrau sy’n: hybu rhifedd ymysg oedolion; gwella cyfleoedd cyflogaeth unigolion sydd â nam ar y synhwyrau; cefnogi gwirfoddoli; lles corfforol a gwella cyfleusterau cymunedol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru i weinyddu a rheoli’r rhaglen yn rhanbarthol.  

Meddai’r Cynghorydd Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy Conwy: “Rwy’n falch iawn y bydd y prosiectau hyn yn gallu cyflawni gwaith hanfodol yn ein cymunedau a chyda nhw, diolch i’r cyllid hwn - rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt.”

Bydd angen cwblhau a hawlio pob prosiect yn llawn erbyn 31 Rhagfyr 2024 fan bellaf.

Meddai Robin Millar, Aelod Seneddol Aberconwy: “Mae grwpiau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus lleol yn treiddio’n ddwfn i wraidd ein cymunedau yma yn Aberconwy. Rwy’n falch iawn fod yr arian hwn gan Lywodraeth y DU yn cael ei rannu gyda nhw’n uniongyrchol, i gefnogi eu gwaith amhrisiadwy. Edrychaf ymlaen at gael cyfarfod y grwpiau sy’n gweithio yn Aberconwy i ddiolch iddynt yn bersonol. Mae’r grantiau hyn yn dilyn £18.6 miliwn o grant Ffyniant Bro y llynedd ar gyfer Llwybr Teithio Llesol y Môr i’r Mynydd rhwng Glan Conwy a Betws-y-coed – a chyn hynny, bron i £2 filiwn o arian Llywodraeth y DU a ddarparwyd fel cyllid Cadernid Cymunedol.”

Meddai David Jones, Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd: “Mae dyfarniad o dros £20 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth EF yn newyddion gwych i bobl Conwy. 

“Ar y cyd â’r Gronfa Ffyniant Bro, dyma un o ddulliau’r Llywodraeth o helpu sicrhau bod ardaloedd fel ein hardal ni, sydd wedi wynebu heriau, yn cael cyfle i wella sefyllfa eu trigolion.”

Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiectau llwyddiannus a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar wefan y Cyngor.

Wedi ei bostio ar 27/12/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content