Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Support for veterans and low income families continues

Cefnogaeth i gyn-filwyr a theuluoedd ar incwm isel yn parhau


Summary (optional)
start content

Cefnogaeth i gyn-filwyr a theuluoedd ar incwm isel yn parhau

Yn ystod cyfarfod o’r Cyngor ddydd Iau (25/01/24) pleidleisiodd y Cynghorwyr yn unfrydol i barhau â’r trefniadau hirsefydlog i ddarparu cefnogaeth yn ôl disgresiwn i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd ar incwm isel.

Cadarnhaodd y Cyngor y byddai’n parhau i gynnal y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor yn 2024/25, er gwaethaf y pwysau ariannol sylweddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Conwy yn derbyn y cynnydd cyllidebol lleiaf yng Nghymru, sef 2% ar gyfer 2024/25.

Nodwedd allweddol o’r cynllun hwn yw’r penderfyniad i eithrio incwm fel pensiwn rhyfel, Pensiwn Rhyfel Gweddw a thaliadau cynllun iawndal y lluoedd arfog wrth gyfrifo’r gostyngiad i Dreth y Cyngor. Mae hyn yn golygu y bydd aelwydydd ar incwm isel yn derbyn lefel uwch o gefnogaeth Treth y Cyngor.

Gan fyfyrio ar y drafodaeth yn ystod cyfarfod y Cyngor, meddai’r Cyng. Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Cynaliadwy: “Er gwaetha’r trafodaethau a’r penderfyniadau anodd sy’n digwydd ar hyn o bryd i bennu cyllideb y flwyddyn nesaf, roedd yn braf gweld pob aelod o’r Cyngor yn pleidleisio i barhau i gynnig y cynllun pwysig yma heb unrhyw newid.”

Rydym ni’n falch o allu parhau i ddarparu cefnogaeth hanfodol i gyn-filwyr y lluoedd arfog a’u teuluoedd i helpu i leihau eu Treth y Cyngor.

Wedi ei bostio ar 30/01/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content