Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Chi yw Diwylliant Conwy

Chi yw Diwylliant Conwy


Summary (optional)
start content

Chi yw Diwylliant Conwy

Gwahoddir sefydliadau diwylliannol a chymunedol sy’n awyddus i gael hwb gan bŵer pobl i fod yn Gefnogwyr Gwirfoddolwyr Amdani!  Conwy.

Wedi’i lansio yn 2023, mae Amdani! Conwy yn fenter sy’n agor y drysau i wirfoddoli yng Nghonwy.  

Wedi’i hariannu gan Spirit of 2012, mae’r fenter ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy a Chelfyddydau Anabledd Cymru’n recriwtio amrywiaeth o wirfoddolwyr a’u cysylltu nhw â chyfleoedd yng Nghonwy. 

Yn dilyn llwyddiant yn 2023, lle cafodd 50 o wirfoddolwyr eu recriwtio i helpu 30 o leoliadau a digwyddiadau, mae’r prosiect yn paratoi rŵan i recriwtio’r don nesaf o wirfoddolwyr yng ngwanwyn 2024. 

Mae Bayside Radio, gorsaf radio gymunedol ym Mae Colwyn, yn un o “Gefnogwyr Gwirfoddolwyr” gwerthfawr Amdani!  ac yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf maen nhw wedi darparu lleoliadau gwaith i wirfoddolwyr. 

Meddai Simon Wynne, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Bayside Radio: “Mae hi wedi bod yn bleser gweithio efo Amdani! Conwy yma yn Bayside Radio. 

“Mae Jasmine a David yn Amdani! wedi bod yn gweithio’n agos gyda thîm Bayside i baru ein hanghenion gyda sgiliau a dyheadau gwirfoddolwyr posibl.  

“Mae ymdrech y ddau y tu ôl i’r llenni wedi gwneud y broses yn un syml, ac mae hyn wedi bod o fudd mawr i dîm bach fel ni.   Rydym ni’n edrych ymlaen at helpu’r gwirfoddolwyr i ennill sgiliau unigryw a chael hwyl wrth wneud hynny, a ninnau wedyn yn elwa ar adnoddau ychwanegol a gwerthfawr ar adeg y mae arnom ni ei angen fwyaf.” 

Mae Amdani! Conwy bob amser yn chwilio am gyfleoedd newydd a chyffrous i wirfoddolwyr allu helpu a chymryd rhan ynddynt.  Felly, os ydych chi’n sefydliad diwylliannol neu gymunedol sy’n chwilio am bobl i helpu, yna beth am ddod yn Gefnogwr Gwirfoddolwyr Amdani! Conwy? 

Ceir rhagor o wybodaeth yn: 
E-bost: Amdani@cvsc.org.uk
Gwefan: www.diwylliantconwy.com 

 

Wedi ei bostio ar 17/01/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content