Os oes gennych syniadau, neu os ydych eisiau cymryd rhan i wneud newid cadarnhaol yn eich cymuned, rhowch wybod i ni. Dyma rai cwestiynau i'w hystyried:
- Beth sy'n bwysig i chi yn eich ardal?
- Beth fyddech chi'n hoffi ei weld yn newid yn eich cymuned?
- Beth sy'n bwysig i wasanaethau cyhoeddus eu darparu?
- Sut allech chi helpu?
Gallwch e-bostio eich syniadau i sgwrsysir@conwy.gov.uk neu ewch i Sut i gysylltu â'r Cyngor am ffyrdd eraill o gysylltu.
Panel Sgwrs Y Sir
Rydym yn ymrwymo i sicrhau bod ein gwaith ymgysylltu’n gweithio’r ddwy ffordd.
O dro i dro, rydym yn edrych am wirfoddolwyr i ymuno â grwpiau ffocws neu fathau eraill o weithgarwch ymgysylltu. Gall hwn fod mewn ffurf arolygon ar-lein, ffurflenni adborth, cyswllt e-bost, sesiynau grŵp ffocws, cyfweliad wyneb i wyneb neu fathau eraill o ymgynghoriad a chyfranogiad. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â sgwrsysir@conwy.gov.uk.
Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt yn ddiogel ar ein cofrestr Panel Sgwrs Y Sir am ddim mwy na blwyddyn yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU. Bydd rhywun yn cysylltu o fewn yr amser hwnnw i ofyn a ydych am i’ch manylion barhau ar ein rhestr o ymgynghorai ai peidio.
Gallwch ofyn i gael eich tynnu o’r rhestr ar unrhyw adeg trwy e-bostio sgwrsysir@conwy.gov.uk. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y ffordd y bydd eich data’n cael ei ddefnyddio yma: www.conwy.gov.uk/HysbysiadauPreifatrwyddTGDC.
Gwasanaethau’r Cyngor
Ydych chi’n gwybod beth allwn ei wneud i chi? I gymryd rhan a gwneud y mwyaf o beth sydd ar gael, mae’n ddefnyddiol gwybod beth mae’r cyngor yn ei gynnig.
Bydd y fideo hwn yn dangos yr ystod eang o wasanaethau rydym yn eu cynnig a’r ffyrdd y gallwn gefnogi cymunedau yn Sir Conwy (Data o 2023 – 2024).
Dweud eich dweud
Mae mwy o ffyrdd y gallwch rannu eich safbwyntiau ar: