Cyn gwneud cais
Gall y Darparwyr Gofal / Cyflogwyr hawlio cyllid atodol i dalu’r costau a ysgwyddwyd o ganlyniad uniongyrchol i wneud y taliad arbennig i aelodau staff cymwys. Cyn gwneud cais, mae angen i'r Darparwyr Gofal / Cyflogwyr bennu eu costau gweithwyr gwirioneddol o ran yswiriant gwladol ac/neu Bensiynau o ganlyniad i’r taliad arbennig a wnaed mewn cydymffurfiad â Chanllawiau Cynllun Taliadau Arbennig Gweithlu Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Pa bryd y gellir hawlio?
Gellir hawlio ar gyfer cyllid atodol unwaith y bydd y taliad arbennig o £500 wedi cael ei weinyddu i’r aelodau staff cymwys.
Ymdrinnir â’r ceisiadau ar sail y cyntaf i’r felin, a bwriedir gorffen y broses erbyn diwedd Mawrth 2021.
Sut i Hawlio taliad y Darparwr Gofal / Cyflogwr
Mae yna ddau dempled (dim ond un y mae angen ei lenwi) i chi eu cadw a’r rhestr o’ch aelodau staff cymwys, ynghyd â’r costau gweithwyr gwirioneddol ar gyfer yswiriant gwladol ac/neu bensiynau. Bydd rhaid i chi lwytho hwn wrth wneud eich cais. Os nad ydych chi’n defnyddio Microsoft Excel, defnyddiwch fformat Open Document Spreadsheet (ODS).
Cyflwynwch y manylion ar fformat Excel neu Open Document Spreadsheet (ODS) yn unig, neu fe allai eich cais gael ei oedi.
Templed Ffurflen Hawlio'r Darparwr Gofal / Cyflogwr (fersiwn Microsoft Excel)
Templed Ffurflen Hawlio'r Darparwr Gofal / Cyflogwr (fersiwn ODS)
Sut y gwneir y taliadau
Gwneir y taliad i’r Darparwyr Gofal / Cyflogwyr ar ôl i Ffurflen Hawlio Darparwr Gofal / Cyflogwr wedi’i llenwi a thystiolaeth y gwnaed y taliadau i’r staff cymwys ddod i law. Gall y dystiolaeth fod ar ffurf adroddiad ariannol/ cyfriflen/ darn o’r gyflogres, cyn belled â bod y rhain yn nodi’n eglur bod taliad gwirioneddol o’r swm llawn wedi’i wneud i bob aelod staff cymwys unigol.
Beth sy’n digwydd ar ôl i’r cais gyrraedd
Byddwn yn cydnabod bod y cais wedi cyrraedd o fewn 10 diwrnod gwaith.
Nod y Cyngor yw prosesu’r cais o fewn 30 diwrnod iddo ein cyrraedd, yn amodol ar ddarparu’r wybodaeth gywir a chynnal y gwiriadau cywir.
Gallai’r Awdurdod Lleol ofyn am ad-daliad llawn neu rannol os bydd tystiolaeth yn dod i’r amlwg nad oedd y cais yn gymwys.
Os byddwch chi’n cael unrhyw anhawster yn uwchlwytho ffeiliau mawr, cysylltwch â ni ar cynlluntaliadauarbennig@conwy.gov.uk