Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Prosesau Diwydiannol


Summary (optional)
Prosesau Rhagnodedig dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2013
start content

Mae prosesau diwydiannol yn cael eu rheoleiddio gan yr awdurdod lle mae ganddynt y potensial i ryddhau llygryddion aer sylweddol i'r amgylchedd lleol.

Mae'r prosesau y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn eu rheoleiddio ar hyn o bryd yn amrywio o chwareli a ffatrïoedd prosesu mwynau, peiriannau hylosgi mwy gan gynnwys llosgwyr olew mewn ffatrïoedd gorchuddio cerrig (macadam), amlosgfeydd i systemau rheoli anwedd mewn gorsafoedd petrol.

Mae'r math o allyriadau llygryddion yn amrywio'n sylweddol o broses i broses ond yn bennaf yn cynnwys:

  • Llwch a gronynnau mân
  • Cynhyrchion llosgi neu doddyddion

Rhaid i brosesau diwydiannol penodol wneud cais am drwydded a'i chael er mwyn gweithredu. Gelwir y rhain yn brosesau penodedig. Bwriad rheoli'r allyriadau o'r prosesau hyn yw sicrhau lefel dderbyniol o ansawdd aer ar lefel leol, ond mae hefyd yn cyfrannu at gyfrifoldeb cyffredinol ar draws y DU i gydymffurfio â deddfwriaeth Ewropeaidd, er enghraifft drwy reoli rhyddhau Cyfansoddion Organig Anweddol (VOC) sy'n cyfrannu at lygredd aer byd-eang.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am brosesau, trwyddedau neu i wneud cais, ffoniwch: 01492 575911

end content