Y wybodaeth ddiweddaraf: Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu cyllid pellach gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer 2025-2026 er mwyn darparu cam pontio o raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin 2022-2025 i fframwaith gyllid newydd o fis Ebrill 2026 ymlaen.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi pum cenhadaeth genedlaethol Llywodraeth y DU: gwthio pŵer allan i gymunedau ym mhobman, gyda ffocws penodol ar helpu i roi hwb i dwf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r DU.
Ar gyfer 2025-2026, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi derbyn £8.2 miliwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i barhau i ddarparu canlyniadau i breswylwyr, busnesau a chymunedau yn ystod y flwyddyn bontio.
Mae’r prosiectau a gefnogir fel a ganlyn:
Darganfod mwy am y Gronfa Ffyniant Gyffredin yng ngogledd Cymru.
Mae’r prosiectau wedi’u hariannu’n rhannol neu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Gweld gwybodaeth Llywodraeth y DU am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. I gysylltu â ni, anfonwch e-bost at sharedprosperityfund@conwy.gov.uk.