Cartref Busnes Datblygu Economaidd Grant Eiddo Canol Tref
start content

Mae cyllid 2026/27 bellach wedi ei ymrwymo’n llawn – ni dderbynnir mwy o geisiadau felly ar gyfer y cynllun. Ar hyn o bryd, ni fedrwn gadarnhau os bydd y gronfa yn ail-agor ym mis Ebrill 2027. Os oes gennych unrhyw brosiectau posibl ar gyfer y dyfodol yr ydych yn dymuno eu trafod, cysylltwch â regen@conwy.gov.uk neu 01492 577329.

Byddai’r gronfa’n cefnogi ein busnesau lleol (masnachol a chymdeithasol) gan gynnig grantiau ar gyfer gwella golwg allanol eiddo masnachol, adfywio canol ein trefi a diwygio eu golwg yn gyffredinol.

Mae’n rhaid i’r gwaith arfaethedig ddisgyn o fewn o leiaf un o’r categorïau canlynol:

  • Atgyweiriadau a gwelliannau cosmetig i du blaen adeiladau sydd mewn cyflwr gwael.
  • Ailosod nodweddion pensaernïol neu dreftadaeth sydd wedi’u colli neu eu difrodi sy’n cyfrannu at gymeriad hanesyddol ac ymddangosiad yr ardal.

Mae’r gronfa ar gael i berchnogion rhydd-ddaliadol yr eiddo, neu feddianwyr sydd â phrydles ac sydd wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan eu landlord ar gyfer y gwaith arfaethedig.

Mae’r cynllun yn cynnig cyllid o hyd at 70% ar wariant cyfalaf ar gyfer prosiectau, gyda dyfarniadau o £3,000 hyd at £15,000 yn cael eu cynnig.

Gwaith Cymwys:

Prosiectau sy’n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Blaen siopau gan gynnwys gwelliannau strwythurol mân a chosmetig
  • Gwella ffenestri arddangos
  • Gwella arwyddion
  • Ffenestri a drysau ar gyfer prosiectau mawr
  • Goleuadau allanol
  • Landeri a phibellau dŵr
  • Rendro, glanhau ac atgyweirio cerrig,  ail-bwyntio

Mae'r cynllun grant uwch hwn yn ddewisol a bydd yn cael ei weithredu ar sail gyntaf i’r felin yn dibynnu ar argaeledd arian a’r gallu i gwblhau'r prosiect o fewn yr amserlen fanwl. Os dyfernir grant, bydd yn rhaid i’r HOLL waith gael ei gwblhau a’i dderbynebu cyn mis Mawrth y flwyddyn ariannol honno.

Bydd yr holl gynigion o gyllid yn amodol ar gymeradwyaeth gan Banel Adolygu Grantiau o’r ceisiadau. Mae hwn yn grant dewisol lle bydd penderfyniad y Panel Adolygu'n un terfynol. Nid oes proses apelio.

Mae’r Canllawiau’r Grant Eiddo Canol Tref ar gael yma i’w lawrlwytho. Fodd bynnag, i gael rhagor o wybodaeth am y grant, neu i wneud cais, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.


I drafod eich cynnig, cysylltwch â:

Katie Minton-Rowlands
Swyddog Prosiect Datblygu ac Adfywio

Rhif Ffôn: 01492 577329
E-bost: regen@conwy.gov.uk

transforming-town-logo-welshgov

end content