Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Rural Development Grants Grantiau Datblygu Gwledig

Grantiau Datblygu Gwledig


Summary (optional)
start content

Mae cyllid o dan y ddau gynllun grant bellach wedi'i ymrwymo'n llawn – mae'r cynllun felly ar gau i unrhyw geisiadau pellach

Mae Cronfa Datblygu Busnesau Gwledig a Grant Datblygu Cymunedau Gwledig wedi cael eu dylunio gan Grŵp Gweithredu Lleol Conwy Cynhaliol sy’n gyfrifol am ddarparu rhaglen LEADER yng Nghonwy.

Mae rhaglen LEADER yn rhan o Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Dyma ddau grant dewisol i gefnogi datblygiad economaidd busnesau a chymunedau yng Nghonwy wledig. 

Bydd ymgeiswyr yn gymwys i wneud cais drwy un o’r cynlluniau canlynol. 

Grant 1 – Grant Datblygu Busnesau Gwledig 

Cronfa i gefnogi busnesau meicro a bach gyda grantiau o hyd at £5000 (50% o arian cyfatebol).

Mae’n rhaid i brosiectau ddiwallu un neu ragor o’r amcanion isod:

  • Adfer / datblygu ar ôl covid
  • Canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a'r argyfwng hinsawdd
  • Datblygu / adfer canol trefi/y stryd fawr ar ôl covid

Ardal Gymwys

Mae’n rhaid fod gan fusnesau gyfeiriad yn seiliedig o fewn ward etholiadol cymwys yng Nghonwy wledig. 

Gweler y map isod a defnyddiwch ein gwiriwr cod post. 

Darllenwch y ddogfen ganllawiau ar gyfer meini prawf llawn y grant hwn: Cronfa Datblygu Busnesau Gwledig Canllawiau (PDF, 856KB)

I gofrestru eich diddordeb yn y grant Datblygu Busnesau, anfonwch e-bost i business@conwy.gov.uk a bydd aelod o’r tîm yn trefnu galwad ffôn gyda chi 

Grant 2 – Grant Datblygu Cymunedau Gwledig 


Grant i gefnogi cymunedau lleol gyda gwerth o hyd at £8000 (20% o arian cyfatebol)

Mae’n rhaid i brosiectau ddiwallu un neu ragor o’r amcanion isod:

  • Cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol yn y gymuned (nid yw digwyddiadau unwaith yn unig yn gymwys)
  • Cynhwysiad Digidol
  • Gwella amgylchedd naturiol ardal er budd y gymuned 
  • Gwella ansawdd amgylchedd adeiledig ardal
  • Prosiectau arbed ynni/lleihau carbon mewn adeiladau cymunedol

Ardal Gymwys

Mae’n rhaid fod gan ymgeiswyr gyfeiriad yn seiliedig o fewn ward etholiadol cymwys yng Nghonwy wledig.

Gweler y map isod a defnyddiwch ein gwiriwr cod post.

Darllenwch y ddogfen ganllawiau ar gyfer meini prawf llawn y grant hwn: Grant Datblygu Cymunedau Gwledig Canllawiau (PDF, 442KB)

I gofrestru eich diddordeb yn y grant Datblygu Cymunedau, anfonwch e-bost i conwylocalactiongroup@conwy.gov.uk a bydd aelod o’r tîm yn trefnu galwad ffôn gyda chi.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content