Cartref Cyngor Archived Ystadegau ac ymchwil Tlodi ac amddifadedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (MALlC 2019)
start content

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (MALlC) yw'r mesuriad swyddogol o amddifadedd ar gyfer ardaloedd bychan yng Nghymru.

Mae'n mesur gwahanol fathau o amddifadedd, a elwir yn 'barthau', i helpu canfod ardaloedd lle mae clystyrau o amddifadedd. Mae canlyniadau holl Ardaloedd Cynnyrch Ehangach (ACE, rhannau o ranbarthau etholiadol/wardiau) yng Nghymru'n cael eu rhoi yn eu trefn, i roi mesur cymharol o amddifadedd.

Dyma'r ardaloedd yng Nghonwy sydd yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru ar gyfer pob mesuriad.

  • Amddifadedd lluosog (mynegai llawn) - Glyn 2; Abergele Pensarn 2; Tudno 2; Colwyn 2
  • Incwm - - Glyn 2; Tudno 2; Abergele Pensarn 2; Llysfaen 1; Colwyn 2
  • Cyflogaeth - Glyn 2; Abergele Pensarn 2; Rhiw 3; Tudno 2; Colwyn 2
  • Iechyd - Glyn 2; Tudno 2; Abergele Pensarn 2
  • Addysg – Bae Cinmel 1
  • Mynediad at wasanaethau - Uwch Conwy; Llansannan; Eglwysbach; Llangernyw; Uwchaled;  Caerhun; Betws yn Rhos; ; Betws-y-Coed; Trefriw
  • Tai - Uwch Conwy; Glyn 1; Llangernyw; Gogarth 1; Llysfaen 1; Glyn 2
  • Diogelwch cymunedol - Glyn 2; Tudno 1; Tudno 2; Abergele Pensarn 2; Rhiw 3; Gogarth 1
  • Amgylchedd ffisegol - dim

Gallwch weld mwy o wybodaeth (gan gynnwys mapiau) drwy glicio yma i Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar safle Llywodraeth Cymru.

Rhowch wybod i ni os oes unrhyw wybodaeth ystadegol arall rydych yn credu y byddai'n ddefnyddiol ei chynnig ar y wefan hon.

end content