Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pwyllgorau a Chyfarfodydd Cyflwyno Cwestiwn i'r Cabinet

Cyflwyno Cwestiwn i'r Cabinet


Summary (optional)
Darllenwch y telerau a’r amodau a chytuno iddynt cyn cyflwyno cwestiwn i'r Cabinet.
start content

Cwestiynau i'r Cabinet

Gall aelodau'r cyhoedd ofyn cwestiwn mewn cyfarfod o'r Cabinet gan ddefnyddio'r ffurflen isod. Darllenwch y protocol llawn.

Pwy all ofyn cwestiwn?

  • unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio ym Mwrdeistref Sirol Conwy.
  • cynrychiolydd sefydliad, grŵp cymunedol neu fusnes sy’n gweithredu o fewn y Fwrdeistref Sirol.

Cyflwyno cwestiwn

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno o leiaf ddeg diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Dim ond un cwestiwn all gael ei gyflwyno fesul unigolyn, neu ar ran sefydliad, ar gyfer pob cyfarfod Cabinet.  

Mae’n rhaid i’ch cwestiwn fod yn gryno ac mae’n rhaid iddo ymwneud â mater y mae gan y Cabinet gyfrifoldeb drosto.

Beth sy'n digwydd wedyn?

Os caiff eich cwestiwn ei dderbyn, caiff eich enw a’r cwestiwn eu cyhoeddi ar raglen y Cabinet ac fe’ch gwahoddir i fynychu cyfarfod y Cabinet i ofyn eich cwestiwn (mae cyfyngiad amser ar hyn).

Mae cyfarfodydd y Cabinet yn cael eu recordio a’u ffrydio’n fyw i’w gwylio gan y cyhoedd.

Bydd ymateb fel arfer yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod, ond os nad yw hynny’n bosibl fe all ymateb ysgrifenedig gael ei ddarparu wedi hynny.

Beth na fydd yn cael ei dderbyn?

Ni fydd cwestiwn yn cael ei dderbyn:

  • Os yw am fater nad oes gan y Cabinet gyfrifoldeb drosto;
  • Os yw’n ddifenwol, gwamal, trallodus, yn gwahaniaethu neu’n tramgwyddo;
  • Os yw’n ymwneud ag aelodau neu gyflogeion y Cyngor a enwir, cwyn yn ymwneud â gwasanaeth unigol, neu wybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn;
  • Os yw’n ymwneud â materion barnwrol neu led-farnwrol, materion rheoleiddio neu orfodi, materion yr ymchwilir iddynt ar hyn o bryd neu geisiadau cynllunio neu drwyddedu unigol neu geisiadau unigol am grant neu apeliadau unigol;
  • Pan fo’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol neu eithriedig fel y disgrifir yn Rheolau Gweithdrefn Hawl i Wybodaeth y Cyngor;
  • Pan fo i raddau helaeth yr un fath â chwestiwn a ystyriwyd mewn cyfarfod diweddar;
  • Pan fo’i natur yn ymwneud â phlaid wleidyddol; 
  • Pan fo fel arall yn amhriodol i’w ystyried yng nghyfarfod cyhoeddus y Cabinet.

Please tick the box below to continue

I have read and agree with the terms and conditions
end content