Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth achos: Arwyn


Summary (optional)
start content

Ar ôl mynychu tair ysgol uwchradd wahanol, ni lwyddodd i setlo yn unrhyw un ohonynt. Nid oedd hyn o ganlyniad i ymddygiad gwael neu ddiffyg gallu; roedd ei arddull dysgu yn wahanol. Roedd yn ffynnu mewn gweithgareddau ymarferol yn hytrach na dysgu mewn dosbarth ac yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu mewn lleoliad addysg traddodiadol.

Gan fyfyrio ar y cyfnod hwnnw, meddai Arwyn: ‘Roeddwn i’n casáu'r ysgol. ‘Doedd gennai ddim syniad beth oeddwn i am ei wneud yn y dyfodol.”


Pan ymunodd â’n rhaglen Ymgysylltu â Chyflogaeth Pobl Ifanc a gynhelir mewn partneriaeth â Gweithredu yn y Gymuned Abergele, fe wnaethom weithio gydag ef i greu llwybr dysgu personol a oedd yn addas i’w gryfderau a’i ddiddordebau. Trwy gyfres o gyfleoedd hyfforddiant byr, unigryw ac wedi’u targedu, dechreuodd ddatblygu’r sgiliau, hyder a’r cymhelliant a oedd eu hangen arno i symud ymlaen. Roedd gallu defnyddio lleoliadau mwy anffurfiol, megis Den Ieuenctid Abergele, wedi ei helpu i setlo. Nid oedd yn teimlo fel addysg neu ysgol, a wnaeth wahaniaeth cadarnhaol. Trwy ddefnyddio prosesau ac egwyddorion Gwaith Ieuenctid, cefnogwyd Arwyn i ymgysylltu’n effeithiol a datblygu perthynas gryfach.

Dros sawl mis, llwyddodd i ennill cymwysterau achrededig mewn:

  • Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle
  • Diogelwch Bwyd
  • Ymwybyddiaeth Diogelwch Tân
  • Ymwybyddiaeth Alergenau
  • Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Rheoli Cwynion
  • Cyfathrebu yn y Gweithle
  • Diogelu
  • Gweithio mewn tîm


Wrth i’w hyder dyfu, mynegodd ddiddordeb mewn adeiladu. Cefnogwyd Arwyn i gwblhau rhaglen hyfforddiant adeiladu, i ennill cymwysterau mewn:

  • Codi a Symud yn Gorfforol
  • Iechyd a Diogelwch yn y maes Adeiladu
  • Diogelwch Ysgol
  • Gweithio ar Uchder
  • Ymwybyddiaeth Asbestos


Fe aeth ymlaen i gwblhau ei brawf sgrin gyffwrdd CSCS, ac fe’i cefnogwyd i wneud cais am ei Gerdyn Labrwr Gwyrdd, gan sicrhau ei fod yn bodloni’r gofynion i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth o fewn y diwydiant adeiladu.

Ond nid dyna’r cyfan. Fe wnaethom hefyd ei atgyfeirio at ein Mentor Cyflogaeth yng Nghanolbwynt Cyflogaeth Conwy, a’n helpodd ni i gefnogi ei siwrnai tuag at gyflogaeth. Drwy’r dull partneriaeth hwn, sicrhawyd cyllid er mwyn iddo fedru ennill Trwydded Dadlwythwr Tipio Ymlaen, a chytunodd cyflogwr i dalu am gost yr asesiad meddygol gofynnol.

Yn fuan wedi hynny, cynigwyd cyflogaeth llawn amser iddo gyda chwmni adeiladu lleol.

Yn ogystal â’i gefnogi i gael gwaith, fe wnaethom ei helpu i wneud cais i goleg, er mwyn sicrhau fod ganddo gynllun wrth gefn a bod llwybr datblygu ychwanegol ar gael iddo. Cynigwyd lle iddo yn y coleg, a rhoddodd hynny sicrwydd pellach iddo yn ogystal â chyfleoedd i’r dyfodol.

Gan ystyried yr hyn yr oedd wedi’i gyflawni, meddai Arwyn: “Rwyf wedi ennill sawl cymhwyster sydd wedi fy helpu i ddatblygu fy CV a’m gwneud yn llawer mwy cyflogadwy. Teimlaf fy mod wedi cael cynnig llawer o gyfleoedd.”


Mae’r newid yn Arwyn wedi bod yn rhyfeddol. Yn ogystal ag ennill cymwysterau a dod o hyd i waith, mae wedi magu hyder, datblygu sgiliau yn y gweithle ac mae’n teimlo’n llawer mwy cadarnhaol am y dyfodol.

Pan ofynnwyd sut mae’r gefnogaeth wedi ei helpu i symud ymlaen, roedd ei ateb yn syml: “Mae wedi fy helpu i gael swydd sy’n talu’n dda.”

Mae teulu Arwyn wedi ei ganmol i’r cymylau wedi iddynt weld y datblygiad yn ei hyder, ei gymhelliant a’i agwedd am y dyfodol â’u llygaid eu hunain.

Meddai ei fam, yn llawn balchder: “Mae’r gwasanaeth hwn yn hollbwysig ar gyfer pobl ifanc nad ydynt yn teimlo bod y system addysg gyfredol yn addas iddyn nhw. Mae rhaglenni fel hyn yn profi’r angen am ddulliau amgen ar gyfer dysgu, a’u llwyddiant. Rwy’n hynod falch o’r hyn y mae Arwyn wedi’i gyflawni mewn cyfnod byr gyda’ch cymorth a’ch arweiniad chi.”


Mae siwrnai Arwyn yn dangos, trwy roi’r gefnogaeth gywir, cyfleoedd ymarferol ac anogaeth iddynt, gallant gyflawni pethau arbennig. Nid yw llwyddiant bob amser yn golygu dilyn y system arferol - mae’n ymwneud â chanfod llwybr sy’n galluogi unigolion i ffynnu.

Heddiw, mae Arwyn yn gweithio, yn gymwys, ac yn edrych ymlaen at y dyfodol. Mae’r unigolyn ifanc a fu unwaith yn teimlo ar goll yn y system addysg bellach yn meddu ar y sgiliau, hyder a’r cyfleoedd i ddilyn gyrfa lwyddiannus.

If you would like us to help you, please call us on 01492 575578.

end content