O’i gyfarfod cyntaf gyda’i fentor, dangosodd Dan foeseg gwaith cryf a gwir benderfyniad i ddychwelyd i waith. Roedd yn drefnus, yn brydlon ac yn gweithio’n dda yn annibynnol ac fel rhan o dîm. Fel siaradwr Cymraeg rhugl â thrwydded yrru lawn, roedd ganddo nifer o’r rhinweddau yr oedd cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Pan ymunodd â’r Canolbwynt, dangosodd Dan ei fod yn awyddus i ddychwelyd i’r gwaith ac yn benodol mewn rôl gyrru, ond nid oedd ganddo CV a oedd yn dangos ei sgiliau a’i brofiad gwaith. Roedd y ffaith ei fod yn byw mewn llety dros dro yn golygu bod heriau eraill o ran sefydlogrwydd, hyder a rheoli rhwystrau.
Bu mentor Dan yn gweithio gydag ef i ddiweddaru ei CV wrth amlygu’r nifer o gryfderau oedd ganddo a fyddai’n ei gwneud yn ddeniadol i gyflogwr. Pan oedd hwn yn barod, cafodd anogaeth gan ei fentor i fynychu Ffair Swyddi’r Canolbwynt ar gyfer Gyrfaoedd ym maes Gyrru ac Adeiladu, a fyddai’n rhoi mynediad uniongyrchol iddo i gyflogwyr yn yr ardal. Cafodd Dan lawer o drafodaethau cadarnhaol gyda’r cyflogwyr ac yn benodol cwmni danfon parseli a phaledi. Fe wnaeth argraff mor dda fel y cafodd ei wahodd am gyfweliad.
Er i’r cyfweliad fynd yn dda, roedd Dan wedi’i siomi pan benderfynodd y cyflogwr beidio â chynnig cyfnod prawf iddo. Cafodd hyn effaith fawr arno, a bu’n teimlo’n ddigalon gan gwestiynu ei allu i symud ymlaen.
Gan gydnabod bod angen cefnogaeth ar Dan i gynnal ei hyder a’r momentwm, awgrymodd ei fentor ei fod yn rhoi cynnig ar gyfle gwirfoddoli gyda chwmni lleol. Byddai hyn yn ei helpu i ddychwelyd i drefn, cynnal ei les a pharhau i ddatblygu ei sgiliau wrth chwilio am waith. Er mwyn dileu unrhyw rwystrau, trefnodd ei fentor docyn bws er mwyn iddo allu mynd i’r cyfweliad.
Yn fuan wedyn, cysylltodd y cwmni danfon parseli a phaledi â Dan eto a’i wahodd i gwblhau prawf tridiau. Roedd hyn yn llwyddiant, a chynigiwyd contract 48 awr yr wythnos iddo. Newidiodd pethau i Dan wedyn. Roedd yn frwdfrydig, yn gymhellol ac roedd yn siarad â balchder ac optimistiaeth o’r newydd am ei ddyfodol.
Mae taith Dan yn amlygu’r effaith emosiynol all rhwystrau ei chael, yn enwedig i bobl sy’n profi ansefydlogrwydd. Er bod ganddo’r sgiliau a’r profiad oedd eu hangen ar gyflogwyr, fe wnaeth y ffaith iddo gael ei wrthod effeithio’n sylweddol ar ei hyder. Gyda chefnogaeth bersonol, cyngor ymarferol ac anogaeth amserol gan ei fentor, llwyddodd Dan i adennill ei hyder a chael gwaith. Mae ei stori yn ein hatgoffa nad oes rhaid i rwystrau ddiffinio’r canlyniad, a bod y gefnogaeth gywir yn gallu helpu pobl i fanteisio ar gyfleoedd pan fyddan nhw’n codi.
Os hoffech chi i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.