Fel person ifanc heb unrhyw brofiad gwaith, roedd Charlie yn ei chael yn anodd denu diddordeb gan gyflogwyr a chael cyfweliadau. Roedd byw mewn ardal wledig anghysbell heb fawr o gludiant cyhoeddus na chyfleoedd am swyddi’n lleol yn creu rhwystrau ychwanegol. Dros amser, roedd yr heriau hyn yn effeithio ar ei hyder a’i gymhelliant.
Pan ymunodd Charlie â Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy, roedd ei ddiffyg cymhelliant yn golygu nad oedd yn ymgysylltu â’i fentor yn gyson. Yn y camau cynnar, roedd ei fam yn siarad â’i fentor ar ei ran yn aml, gan chwarae rôl gefnogol bwysig wrth i Charlie ddechrau meithrin ei hyder.
Y flaenoriaeth gyntaf oedd mynd i’r afael â phroblemau cludiant Charlie. Ar ôl trafod gwahanol ddewisiadau, penderfynodd weithio tuag at basio ei brawf beic modur. Gyda chefnogaeth gan ei deulu, llwyddodd i brynu beic modur, gan roi annibyniaeth iddo deithio ymhellach a oedd yn golygu bod amrywiaeth fwy eang o lawer o swyddi y gallai wneud cais amdanynt.
Gyda’i hyder newydd, bu Charlie yn gweithio gyda’i fentor i ddiweddaru ei CV, edrych ar ddewisiadau gyrfa a nodi rolau a oedd yn cyd-fynd â’i ddiddordebau. Wrth iddo geisio gwneud cais am swyddi, darparodd ei fentor hyfforddiant un i un mewn technegau cyfweld er mwyn helpu i feithrin ei hyder a’i baratoi i gyflwyno ei hun yn gadarnhaol i gyflogwyr.
Er bod Charlie yn gwneud ceisiadau am swyddi, roedd yn dal i’w chael yn anodd cael cyfweliadau. Er mwyn cryfhau ei CV, awgrymodd ei fentor y byddai gwirfoddoli yn ffordd o ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr. Nid oedd Charlie yn siŵr i ddechrau, ond aeth i gwrdd â Sefydliad Prydeinig y Galon i edrych ar y cyfleoedd oedd ar gael, a llwyddodd i gael gwell dealltwriaeth o sut y gall gwirfoddoli helpu pobl ifanc i ddatblygu hyder a gwella eu rhagolygon am swyddi.
Daliodd Charlie i wneud ceisiadau am swyddi ac fe’i wahoddwyd i gyfweld ar gyfer rôl mewn ffair leol. Diolch i’r gwaith paratoi a’r anogaeth a gafodd gan ei fentor, aeth i’r cyfweliad gyda hyder a llwyddodd i gael y swydd. Mae ei daith yn dangos sut gall cefnogaeth ymarferol, dyfalbarhad a hunan-gred gynyddol helpu i oresgyn rhwystrau ac agor y drws at gyflogaeth.
Os hoffech chi i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.