Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth achos: George


Summary (optional)
start content

Roedd George wedi treulio ei yrfa yn gweithio yn y diwydiant lletygarwch yn y DU a thramor, gan ddatblygu cyfoeth o sgiliau a phrofiad. Fodd bynnag, ar ôl cael ei wneud yn ddi-waith, penderfynodd nad oedd eisiau dychwelyd i ddiwydiant y teimlai a oedd yn methu â chynnig sicrwydd hirdymor iddo. Yn hytrach, roedd o eisiau gyrfa a fyddai’n darparu sefydlogrwydd ac yn ei helpu i ailddatblygu ei annibyniaeth, ond nid oedd yn siŵr ble i ddechrau.

Pan ymunodd George â’r Canolbwynt, dywedodd wrth ei fentor ei fod yn teimlo’n ansicr am ei ddyfodol a bod diffyg hyder ganddo yn ei allu i ddechrau gyrfa cwbl newydd. Gyda’i gilydd, aethant ati i edrych ar ei brofiad gwaith blaenorol, nodi’r sgiliau trosglwyddadwy niferus yr oedd wedi’u datblygu a thrafod ei nodau hirdymor, gan gynnwys dod o hyd i swydd ddiogel a symud i’w lety ei hun.

Er bod gan George brofiad gwaith helaeth, roedd o i gyd o fewn y diwydiant lletygarwch, a oedd yn ei gwneud yn hynod anodd iddo newid gyrfa. Yn hytrach nag awgrymu llwybr penodol, cafodd George ei annog gan ei fentor i ymchwilio i wahanol ddiwydiannau cyn eu cyfarfod nesaf a meddwl am syniadau a oedd o ddiddordeb iddo. Rhoddodd hyn berchnogaeth i George dros ei siwrnai gan ei helpu i archwilio posibiliadau newydd.

Penderfynodd George ei fod eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu ac roedd hyd yn oed wedi nodi datblygiad tai lleol lle roedd yn gobeithio cael gwaith. Gan gydnabod ei ymroddiad, cafodd ei gofrestru gan ei fentor ar gwrs CSCS a oedd yn cwmpasu Iechyd a Diogelwch mewn Amgylchedd Adeiladu Lefel, a llwyddodd i basio ei Brawf Sgrin Gyffwrdd a dyfarnwyd cerdyn CSCS iddo.

Wedi’i arfogi gyda’r cymhwyster newydd hwn, aeth George at y cwmni adeiladu a oedd yn gweithio ar y datblygiad tai yr oedd wedi’i weld. Talodd hynny ar ei ganfed oherwydd fe gafodd gynnig swydd i gychwyn ar unwaith.

Mae siwrnai George yn dangos sut y gall penderfyniad, mentora personol a mynediad at yr hyfforddiant cywir roi hyder i bobl newid eu gyrfa yn llwyddiannus. Trwy gydnabod ei sgiliau trosglwyddadwy a’i arfogi gyda chymwysterau’r diwydiant, helpodd y Canolbwynt George i droi ansicrwydd yn gyfle.

Heddiw, mae George yn ffynnu mewn swydd adeiladu y mae’n ei mwynhau. Mae sefydlogrwydd yr yrfa newydd hon hefyd wedi ei alluogi i symud i lety rhent, gan gyflawni ei nod o fyw’n annibynnol a chreu dyfodol mwy diogel.

Os hoffech chi i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.

end content