Pan ymunodd Fred â’r Hwb, roedd wedi cael llawdriniaeth fawr yn ddiweddar ac roedd yn dal i fynychu apwyntiadau meddygol rheolaidd. Roedd ei gyflwr iechyd yn golygu bod rhaid iddo ildio ei drwydded yrru, a arweiniodd at anawsterau cludiant gan gyfrannu at iselder, gorbryder a phwysedd gwaed uchel. Er gwaetha’r heriau hyn, roedd Fred yn dal i fod yn benderfynol o ddychwelyd i’r gwaith er mwyn helpu i gefnogi ei wraig a’u dau o blant oedran ysgol.
Siaradodd Fred yn agored â’i fentor am ei amgylchiadau. Gyda’i wraig yn gweithio llawn amser, a’r plant yn dal i fod yn yr ysgol, roedd angen swydd ran amser arno a fyddai’n cyd-fynd â’i anghenion meddygol a’i gyfrifoldebau teuluol. Gyda’i gilydd, cytunwyd ar nodau realistig gan ganolbwyntio ar gyfleoedd y byddai modd eu cyflawni a’u cynnal.
Trwy fentora rheolaidd un i un, llwyddodd Fred i ail-feithrin ei hyder yn raddol a daeth yn fwy hyderus wrth chwilio am waith ar ei ben ei hun. Gyda’i gilydd, buont yn canolbwyntio ar swyddi gwag yr oedd modd cerdded iddynt, er mwyn datrys y problemau teithio. Fe dalodd ei benderfyniad ar ei ganfed pan welodd gyfle am swydd ar Facebook. Ar ôl cyflwyno cais, cafodd ei wahodd i gwblhau sifft cyn cael cynnig swydd fel Glanhawr a Chynorthwy-ydd Paratoi a Gwaith Cegin Cyffredinol.
Mae taith Fred yn dangos nad oes rhaid i gyflyrau iechyd cymhleth ac amgylchiadau personol atal rhywun rhag dychwelyd i’r gwaith. Gyda chefnogaeth wedi’i phersonoli, gosod nodau realistig ac anogaeth, llwyddodd i adennill ei hyder, canfod cyflogaeth a oedd yn gweddu i’w amgylchiadau a chymryd cam pwysig tuag at ddyfodol mwy diogel iddo ef ei hun a’i deulu.
Os hoffech chi i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.