Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Swyddi a gyrfaoedd Polisi o ran y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Polisi o ran y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd


Summary (optional)
start content

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn.

Fel cyflogwr, bydd y Cyngor yn cynnal gwiriadau cyn-cyflogaeth ar staff cymwys, gwirfoddolwyr ac eraill sy’n gwneud gwaith ar ran y Cyngor fel rhan o’r gweithdrefnau recriwtio. Mae’r polisi hwn yn amlinellu pam y gallai’r Cyngor ddefnyddio gwybodaeth y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) fel rhan o’r gweithdrefnau recriwtio. Mae mwy o wybodaeth am y GDG yn Atodiad A.

Nodau’r polisi yw sicrhau fod y Cyngor:

  • yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol mewn perthynas â gwiriadau cofnodion troseddol i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad grwpiau diamddiffyn (plant ac/neu oedolion) sy'n derbyn gwasanaethau oddi wrth y Cyngor ac o fewn y gymuned ehangach.
  • Sicrhau bod cyn-droseddwyr, boed yn weithwyr neu eraill yn cael eu trin yn deg, ac y gwneir penderfyniadau ar sail asesiad llawn o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’u swydd.

Mae'r polisi a'r weithdrefn hon yn nodi'r gofynion ar gyfer cynnal gwiriadau sgrinio cyn cyflogaeth gyda'r GDG. Bydd y gwiriadau cofnodion troseddol yn datgelu cofnod troseddol perthnasol person fel y gellir gwneud penderfyniad ynghylch eu haddasrwydd i weithio gyda phlant neu grwpiau diamddiffyn.

Polisi Gwiriadau GDG

end content