Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Prawf Adnabod


Summary (optional)
start content
Mae ar Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy angen gweld prawf o’ch hawl i fyw a gweithio yn y DU, ac isod fe gewch chi restr o’r dogfennau a ellir eu dangos fel tystiolaeth ddilys o hynny:
  • ASL4264 ar gyfer Ceisiwr Lloches sydd wedi cael caniatâd i weithio yn y DU
  • Trwydded preswylio biometrig (a roddir i fewnfudwyr sy’n cael caniatâd i aros yn y DU am chwe mis neu fwy)
  • Tystysgrif geni neu fabwysiadu
  • Gohebiaeth yn cadarnhau derbyn neu ddyfarnu:
    • Grant Dysgu Addysg Bellach Llywodraeth Cymru
    • Lwfans Cynnal Addysg neu fenthyciad neu grant arall a ddarperir drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru / Cwmni Benthyciadau Myfyriwr
  • Tystiolaeth o fudd-dal/pensiwn y wlad
    • Gohebiaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau / Credyd Cynhwysol / Canolfan Byd Gwaith./ Gwasanaeth Pensiwn
  • Cerdyn Adnabod (ar gyfer gwladolion o’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a roddir gan y Swyddfa Gartref yn lle teitheb)
  • Dogfen Statws Mewnfudo a roddir i wladolon o’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd 
  • Ffurflen NASS35, a roddir i geiswyr lloches ar ôl penderfyniad cadarnhaol ynghylch eu cais am loches 
  • Rhif Yswiriant Gwladol
    • Cerdyn Yswiriant Gwladol Plastig neu ddogfen swyddogol sy’n cadarnhau’r rhif YG
    • Gohebiaeth gan CThEF
    • Gohebiaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
    • Gohebiaeth gan y Ganolfan Byd Gwaith / gwasanaeth pensiwn
    • Contract cyflogaeth neu slip cyflog gan gyflogwr sy’n cynnwys enw’r cyflogwr 
  • Pasport (un dilys heb ddod i ben, o’r DU)
  • Pasbort sydd naill wedi’i ardystio i ddangos fod caniatâd gan y deiliad i aros am gyfnod amhenodol neu’n cynnwys trwydded i weithio neu breswylio neu stampiau teitheb
  • Cardiau Preswylio
  • Cerdyn Dinesydd y DU
  • Llythyr Mewnfudo’r DU sy’n rhoi caniatâd i aros am gyfnod amhenodol 
  • Cardiau VALIDATE (tebyg i Gardiau Dinesydd y DU) 
  • Rhif Dysgwr Unigryw – yn dangos enw llawn, cyfeiriad a rhif YG y cyfranogwr yn glir
end content