Rydym yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac yn sicrhau cyfweliad ar gyfer unrhyw ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol a restrir yn y Manylion am yr Unigolyn ar gyfer y swydd.
Hyderus o ran Anabledd a’r hyn mae’n ei olygu i chi
Rydym eisiau creu gweithle cynhwysol a chefnogol ar gyfer pobl gydag anableddau. Rydym yn cydnabod y gwerth a’r ddawn y mae gweithwyr anabl yn ei gynnig ac yn sicrhau eu bod yn cael cyfle cyfartal i lwyddo.
Mae bod yn rhan o’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd yn dangos ein hymrwymiad i chwalu rhwystrau a herio ystrydebau. Rydym eisiau meithrin amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.
Fel gweithle sy’n Hyderus o ran Anabledd, rydym yn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal mewn recriwtio a diwylliant cadarnhaol ar draws ein gwasanaethau. Rydym wedi ymrwymo i gadw a datblygu ein gweithwyr anabl.
Ein hymrwymiad i fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd
- Gwneud ymdrech i ddenu a recriwtio pobl anabl
- Darparu proses recriwtio hygyrch a chynhwysol
- Cewch eich gwahodd yn awtomatig i’r cam cyntaf ffurfiol o’r broses recriwtio os ydych yn bodloni’r meini prawf hanfodol (eitemau a nodir yn hanfodol yn y Manylion am yr Unigolyn)
- Bod yn hyblyg wrth asesu pobl fel bod gan ymgeiswyr anabl y cyfle gorau i arddangos eu bod yn gallu gwneud y swydd
- Cynnig a gwneud addasiadau rhesymol yn rhagweithiol yn ôl yr angen
- Sicrhau bod ein staff yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth cydraddoldeb i bobl anabl
- Hyrwyddo diwylliant o fod yn hyderus o ran anabledd
- Cefnogi gweithwyr i reoli eu hanableddau neu gyflyrau iechyd
- Gwerthfawrogi a gwrando ar adborth gan bobl anabl
Sut i gael mynediad at y cynllun?
Dyma sut mae’n gweithio:
- Ceisiadau: Anogir ymgeiswyr anabl i wneud cais am unrhyw rôl sydd ganddynt ddiddordeb ynddynt. Mae ein ffurflenni cais wedi’u dylunio i fod yn hygyrch, ac rydym yn hapus i roi cymorth i chi gwblhau’r ffurflen. (Gweler isod y cymorth ychwanegol sydd ar gael).
- Gwarantu Cyfweliad: Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn sicrhau cyfweliad ar gyfer unrhyw ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd. Mae hyn yn sicrhau fod holl ymgeiswyr cymwys yn cael y cyfle i ddangos eu gallu.
- Addasiadau Rhesymol: Rydym yn darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio. Gall hyn gynnwys fformatau amgen ar gyfer deunyddiau ymgeisio, lleoliadau cyfweliad hygyrch neu gymorth ychwanegol yn ystod cyfweliadau.
- Cefnogaeth a Chyfathrebu: Rydym yn cyfathrebu’n agored gydag ymgeiswyr i ddeall eu hanghenion a darparu’r gefnogaeth angenrheidiol.
- Adborth: Rydym yn cynnig adborth cadarnhaol i holl ymgeiswyr, gan eu helpu i ddeall eu cryfderau a meysydd ar gyfer gwella, beth bynnag fo’r canlyniad.
Cefnogaeth ychwanegol
Rydym yn cynnig ystod o gefnogaeth ychwanegol er mwyn sicrhau bod gan yr holl ymgeiswyr yr adnoddau sydd eu hangen arnynt.
Mae ein llyfrgelloedd yn darparu mynediad at gyfoeth o wybodaeth ac adnoddau, gan gynnwys technolegau cynorthwyol a fformatau hygyrch.
Mae’r Canolbwynt Cyflogaeth yn cynnig cefnogaeth wedi’i deilwra ar gyfer y rhai sy’n chwilio am waith, gan gynnwys cyngor gyrfaoedd, datblygu sgiliau a gwasanaethau paru swyddi.
Mae ein tîm AD wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth barhaus, gan sicrhau y gwneir addasiadau rhesymol a bod yr holl weithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys.