Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020
Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau.
Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Mynd i'ch cyfweliad
Summary (optional)
start content
Fel arfer, mae yna ddau neu dri pherson ar y panel cyfweld. Gall hyn deimlo braidd yn frawychus, ond mae'n caniatáu i ni gynnal llif y cyfweliad a gwneud nodyn o’r holl bethau diddorol y bydd gennych chi i’w dweud. Bydd aelodau’r panel yn dweud wrthych chi sut y bydd y cyfweliad yn gweithio, gan ofyn ychydig o gwestiynau bob un fel arfer.
Os ydych chi'n ansicr ynghylch y cwestiwn, gofynnwch i'r cyfwelydd aralleirio neu ailadrodd. Cymerwch eich amser wrth ateb cwestiwn, byddwch yn benodol a rhowch enghreifftiau a phrofiadau blaenorol a pheidiwch â phoeni os na allwch ei ateb neu os ydych yn teimlo eich bod wedi ateb yn wael - ein gwaith ni yw cael y gorau ohonoch! Mae’n bwysicach adennill eich sylw a chanolbwyntio ar y cwestiwn nesaf.
Wrth ateb cwestiwn, byddwch yn benodol ac yn hyderus. Ar ôl i chi sôn am gryfder, dylech atgyfnerthu hyn gydag enghreifftiau a phrofiadau’r gorffennol.
Yn yr adran hon
Drag side panels here (optional)
end content