Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r stigma mewn perthynas ag iechyd meddwl, ac yn benderfynol o greu diwylliant sy'n agored ac yn deall iechyd meddwl a lles yn ein gweithle. Mae ein grŵp Cefnogwyr Amser i Newid ar gael i staff ac yn cyfarfod bob chwarter i rannu syniadau ac arferion da.
Pa bynnag broblem iechyd meddwl, corfforol, ariannol neu bersonol rydych yn ei hwynebu, gallwch gael gafael ar gymorth a chefnogaeth gan arbenigwyr i’ch helpu gyda heriau bywyd 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn drwy ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr.
Yn yr adran hon
Drag side panels here (optional)