Deallusrwydd Artiffisial yn Ein Proses Recriwtio
Ein Hymrwymiad i Broses Recriwtio Deg a Moesegol
Rydym yn defnyddio system ddigidol i reoli recriwtio, ond nid yw Deallusrwydd Artiffisial yn gwneud penderfyniadau am ymgeiswyr. Mae pob rhestr fer, cyfweliad a phenderfyniad terfynol yn cael eu gwneud gan bobl.
Rydym yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial er mwyn:
- Gwella eglurder a chynhwysiant mewn hysbysebion a disgrifiadau swyddi a disgrifiadau.
- Creu cwestiynau perthnasol ar gyfer cyfweliadau.
- Datblygu cynnwys recriwtio dengar
Ein hegwyddorion arweiniol:
- Tegwch: Defnyddir Deallusrwydd Artiffisial yn gynhwysol a heb ragfarn.
- Goruchwyliaeth Ddynol: Mae pob penderfyniad yn cael ei wneud gan reolwyr cyflogi ac AD.
- Preifatrwydd: Defnyddir data dienw neu gyhoeddus yn unig.
- Tryloywder: Rydym yn esbonio’n glir sut mae Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei ddefnyddio.
- Moeseg: Mae defnydd Deallusrwydd Artiffisial yn cyd-fynd â’n gwerthoedd a safonau cyfreithiol.
- Dysgu: Rydym yn cefnogi staff i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn gyfrifol ac i chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae hon yn ddogfen fyw a bydd yn cael ei diweddaru wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial esblygu.
Canllawiau Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer unigolion sy’n Gwneud Cais am Swydd
Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn Gyfrifol yn eich Cais
Rydym yn cydnabod bod pecynnau megis ChatGPT a Copilot yn gallu eich helpu i fynegi eich syniadau, gwella eich ysgrifennu a pharatoi ar gyfer cyfweliadau. Serch hynny, mae’n rhaid i’ch cais adlewyrchu eich sgiliau, profiadau a’ch potensial eich hun.
Gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i:
- Ddatblygu a strwythuro eich syniadau.
- Ymchwilio i wasanaethau a gwerthoedd Cyngor Conwy.
- Archwilio patrymau yn y diwydiant sy’n berthnasol i’ch profiad.
- Gwirio gramadeg a sillafu.
- Ymarfer cwestiynau cyfweliad a mireinio ymatebion STAR.
Ni ddylech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i:
- Orliwio neu ddyfeisio cymwysterau neu brofiad.
- Cyflwyno cynnwys a gynhyrchwyd dan Ddeallusrwydd Artiffisial heb ei bersonoli.
- Cwblhau asesiadau neu brofion.
- Mewnbynnu data cyfrinachol neu sensitif.
- Dibynnu ar Ddeallusrwydd Artiffisial yn ystod cyfweliadau - rydym eisiau clywed gennych yn uniongyrchol.
Neges Allweddol:
Gall Deallusrwydd Artiffisial eich cefnogi chi gyda’ch cais, ond ni ddylai ddisodli eich llais eich hun. Byddwch yn onest, byddwch chi eich hun, a gadewch i’ch cryfderau go iawn ddisgleirio. Os ydych chi’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial, rhowch wybod i ni sut rydych wedi ei ddefnyddio. Nid oes disgwyl i chi ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial - chi sy’n dewis.