Rydym yn Cyngor dwyieithog, sy'n ceisio cynnig dewis iaith i'r cyhoedd wrth iddyn nhw gysylltu efo ni.
Mae rhan o gais swyddi yn gofyn i chi nodi lefel eich sgiliau'r Gymraeg. Bydd yr hysbyseb yn gadael i chi wybod yn union pam fod angen sgiliau Cymraeg ar gyfer y swydd benodol honno, sy’n dilyn y canllawiau cyffredinol yma:
- Lefel 1: Mae hyn yn golygu eich bod yn gallu ynganu enwau lleoedd ac enwau pobl ac yn gallu deall a dweud cyfarchion ac ymadroddion syml.
- Lefel 2: Yn ogystal ag arddangos sgiliau siarad Cymraeg Lefel 1, mae hyn yn golygu eich bod yn gallu rhoi a gofyn am fanylion personol a sylfaenol; gwneud ceisiadau syml a dweud ychydig ymadroddion amdanoch chi eich hun yn Gymraeg.
- Lefel 3: Yn ogystal ag arddangos sgiliau siarad Cymraeg Lefel 1 a Lefel 2, mae hyn yn golygu eich bod yn gallu sgwrsio’n rhannol yn Gymraeg, ond yn troi at Saesneg wrth drafod a rhoi gwybodaeth fwy manwl. Gallwch ddeall ac ymateb i ymholiadau cyffredinol a disgrifio pobl a lleoedd gan ddefnyddio ymadroddion syml yn Gymraeg.
- Lefel 4: Yn ogystal ag arddangos sgiliau siarad Cymraeg Lefel 1, Lefel 2 a Lefel 3, mae hyn yn golygu eich bod yn gallu deall a delio gyda phobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, ond gallech droi at Saesneg wrth ymdrin â sefyllfaoedd neu derminoleg cymhleth.
- Lefel 5: Mae hyn yn golygu eich bod yn gallu sgwrsio yn Gymraeg ym mhob sefyllfa.
Gwiriwch lefel eich sgiliau'r Gymraeg gyda’n hofferyn asesu ar-lein (yn agor mewn ffenest/tab newydd).