Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi Conwy, yn cefnogi 12,319 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Argymhellir mai gwerth twristiaeth i economi leol Conwy yw £887.62m (data STEAM 2017). Felly, mae’n un o brif gynalyddion Conwy ac yn ffynhonnell fawr i gyflogaeth a refeniw.
Mae’r buddion yn cynyddu ar hyd a lled y Sir; gydag ymwelwyr yn gwario ar lety, bwyd a diod, gweithgareddau hamdden a siopa. Mae busnesau nad ydynt yn ymwneud â thwristiaeth hefyd yn elwa drwy gadwyni cyflenwi lleol, megis y cyfanwerthwr sy’n cyflenwi bwytai a’r garej leol lle bydd ymwelwyr yn prynu tanwydd.
Mae gan dwristiaeth werth pwysig iawn i'r gymuned ehangach hefyd; yn arbennig yn yr ardaloedd gwledig lle mae llawer o nwyddau a gwasanaethau ond ar gael i'r gymuned breswyl ac yn parhau'n hyfyw drwy wariant ymwelwyr. Cyfeirir at y budd economaidd ehangach hwn i’r gyrchfan fel Economi’r Ymwelwr ac mae’n llawer mwy pellgyrhaeddol nag effaith uniongyrchol yr elfen dwristiaeth ei hun.
Cynllun Rheoli Cyrchfan Conwy 2019 2029 (PDF)