Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Asesiadau Effaith Cydraddoldeb


Summary (optional)
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddyletswydd benodol, fel pob awdurdod cyhoeddus, i gynnal Asesiadau Effaith Cydraddoldeb ar bolisïau newydd a diwygiedig ac i gyhoeddi'r canlyniadau.
start content

Asesu Effaith Cydraddoldeb yw'r term sy'n disgrifio'r broses o asesu canlyniadau posib neu debygol polisïau ac arferion bwriedig neu ddiwygiedig. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal asesiadau effaith cydraddoldeb i'w helpu i gael gwared â gwahaniaethu, i ddyrchafu cyfle cyfartal ac i wella canlyniadau i wahanol grwpiau o bobl.

Mae Asesiad Effaith Cydraddoldeb yn canolbwyntio'n benodol ar adnabod y gwahanol ffyrdd y gall gwahanol bobl gael eu heffeithio gan gynnig. Yn ogystal â chwilio am ffyrdd i leihau effeithiau negyddol, mae'r asesiad hefyd yn rhoi'r rhyddid i chwilio am gyfleoedd i greu effaith fwy cadarnhaol ac i wella canlyniadau i bobl y mae mwy o berygl iddynt fod o dan anfantais.

Mae gan y Cyngor bolisi Asesu Effaith Cydraddoldeb newydd yn ei le ac wrth i Asesiadau Effaith Cydraddoldeb gael eu cymeradwyo byddant yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â dull gweithredu'r Cyngor mewn perthynas ag Asesiadau Effaith Cydraddoldeb anfonwch e-bost at cydraddoldeb@conwy.gov.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content