Hysbysiad Cyhoeddus - Sedd Wag x 2
Cyngor Cymuned Betws y Coed
Dyma hysbysiad bod 2 o seddi gwag am swydd Cynghorydd yn y Gymuned / Ward uchod.
Bydd etholiad yn cael ei gynnal i lenwi'r seddi gwag os bydd Rheolwr y Gwasanaethau Democratiaidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7AZ, yn derbyn cais am etholiad o'r fath yn ysgrifennedig o fewn pyfethnos ar ôl dyddiad y Rhybudd hwn (ac eithrio penwythnosau a gwyliau banc), oddi wrth DDEG o bobl sydd wedi cofrestru fel etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal etholiadol lle mae'r seddi gwag.
Haf Jones
Clerc y Cyngor
Dyddiwyd: 27 Ebrill 2026