Rhybudd Cyhoeddus: Sedd wag annisgwyl fel Cynghorydd Bwrdeistref Sirol ar gyfer ward etholiadol Bryn.
RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN dan Adran 87(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972 bod sedd wag annisgwyl yn bodoli fel Cynghorydd Bwrdeistref Sirol dros Ward Etholiadol Bryn ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Bydd etholiad i lenwi’r sedd wag yn cael ei gynnal o fewn 35 diwrnod os derbynnir cais ysgrifenedig am etholiad o’r fath gan y Swyddog Canlyniadau, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7AZ, gan DDAU unigolyn a gofrestrwyd fel etholwyr llywodraeth leol o’r fwrdeistref sirol.
Prif Weithredwr Dros Dro
Dyddiedig: 5 Hydref 2026