Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor eDeisebau Awgrymu eDdeiseb newydd

Awgrymu eDdeiseb newydd


Summary (optional)
Darllenwch a chytunwch gyda'r telerau ac amodau cyn awgrymu eDdeiseb newydd.
start content

eDdeisebau

Mae creu neu gymryd rhan mewn deiseb yn un ffordd y gall unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau gymryd rhan yn yr hyn y mae'r Cyngor yn ei wneud. Mae'n caniatáu i bobl godi materion sy'n peri pryder, gan roi cyfle i Gynghorwyr ystyried yr angen am newid. Gyda’r bwriad o’i gwneud yn haws i gyflwyno deisebau, mae'r Cyngor wedi cyflwyno cyfleuster eDdeiseb

Cyn cyflwyno deiseb dylech wirio yn gyntaf gyda'ch Cynghorydd lleol i weld a yw'r Cyngor eisoes yn gweithredu ar eich pryderon ac mai’r Cyngor yw'r corff mwyaf priodol i dderbyn eich deiseb.

Os ydych yn creu eDdeiseb byddwch yn dod yn ddeisebydd 'arweiniol' a bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol sylfaenol i'r Cyngor fel y gallwn gysylltu â chi.

Os ydych yn llofnodi eDdeiseb bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol sylfaenol i ni, gan gynnwys cyfeiriad e-bost, er mwyn ein galluogi i wirio bod y 'llofnodion' a gasglwyd yn ddilys. Pan fyddwch wedi cyflwyno’r wybodaeth hon byddwch yn cael e-bost ar y cyfeiriad e-bost a roddwyd gennych. Bydd yr e-bost yn cynnwys dolen gyswllt y mae'n rhaid i chi glicio arni er mwyn cadarnhau bod y cyfeiriad e-bost yn ddilys. Unwaith y bydd y cam hwn wedi’i gwblhau, bydd eich 'llofnod' yn cael ei ychwanegu at yr eDdeiseb. Bydd eich enw (ond dim manylion eraill) yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr eDdeiseb.

Beth sy'n digwydd pan mae'r eDdeiseb yn gyflawn a sut caiff ei chyflwyno?

Bydd angen i'ch eDdeiseb gynnwys:

  • Teitl

  • Disgrifiad yn nodi’n benodol pa gamau yr hoffech i'r Cyngor eu cymryd, a unrhyw wybodaeth y teimlwch sy'n berthnasol i'r eDdeiseb a'r rhesymau pam yr ydych yn ystyried bod y camau gofynnol yn angenrheidiol.

  • Dyddiad ar gyfer pryd yr hoffech i'ch eDdeiseb fynd yn fyw ar y wefan. Gall gymryd hyd at 5 diwrnod i’r Gwasanaethau Democrataidd wirio eich cais eddeiseb a thrafod unrhyw faterion gyda chi, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno'r cais mewn da bryd

  • Dyddiad ar gyfer pryd y bydd eich eDdeiseb yn dod i ben â chasglu llofnodion. Er mwyn cyflawni'r effaith fwyaf, efallai y byddwch am bennu’r dyddiad hwn fel y bydd yr eDdeiseb yn cael ei chyflwyno cyn y dyddiad y cynhelir trafodaeth neu y gwneir penderfyniad ar y mater. Byddwn yn cynnal eich eDdeiseb am hyd at bedwar mis ond byddai disgwyl i'r rhan fwyaf fod yn fyrrach na hyn

  • Eich enw - fel deisebydd arweiniol, bydd eich enw yn cael ei ddangos gyda'ch eddeiseb ar y wefan

  • Rhaid i ddeisebau gael eu llofnodi gan o leiaf 100 o bobl, ond bydd y Cyngor yn defnyddio’i ddisgresiwn lle ceir llai na 100 o lofnodwyr mewn achosion lle ceir cefnogaeth leol glir ar gyfer gweithredu (e.e. lle mae trigolion cymuned fach wedi deisebu ar gyfer mesurau arafu traffig)

Pan fydd eDdeiseb yn cyrraedd ei dyddiad cau, ni fyddwch yn gallu ei harwyddo arlein mwyach. Bydd y rhestr o lofnodwyr yn cael eu casglu gan y Gwasanaethau Democrataidd a chysylltir â’r deisebydd arweiniol ynghylch cyflwyno eDdeiseb wedi’i chwblhau.

Yn dibynnu ar y pwnc a'r cyngor gan Swyddog Monitro'r Cyngor, gellir cyflwyno’r ddeiseb mewn cyfarfod o'r Cyngor, y Cabinet neu’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Gall y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu drafod y mater yn llawn a gwneud argymhelliad (argymhellion) i'r Cyngor neu'r Cabinet, fel y bo'n briodol. Mewn rhai achosion, os yw’r ddeiseb yn ymwneud â mater 'lleol', gallai gael ei gyfeirio at un o Fforymau Ardal Lleol y Cyngor i gael trafodaeth bellach cyn ystyriaeth ffurfiol.

Os bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, bydd y deisebydd arweiniol yn cael ei wahodd i fynychu'r cyfarfod a bydd yn cael cynnig y cyfle i gyflwyno'r ddeiseb, a fydd yn cynnwys crynodeb tri munud ynghylch cynnwys y ddeiseb a nifer y llofnodion. Fel arall, gall y deisebydd arweiniol ofyn i Gynghorydd gyflwyno'r ddeiseb (y Cynghorydd lleol fyddai hwn fel arfer). Os na fydd y deisebydd arweiniol yn bresennol i gyflwyno'r ddeiseb, ac nad yw'r Cynghorydd lleol wedi cael cais i gyflwyno ar ei ran, bydd yn cael ei ddarllen gan y Cadeirydd. Yn dilyn y cyfarfod, bydd ymateb yn cael ei anfon at y deisebydd arweiniol o fewn 15 diwrnod gwaith i'r cyfarfod a bydd yn cael ei rhoi ar wefan y Cyngor.

Rhaid i unrhyw ddeiseb sy’n mynd yn uniongyrchol i'r Cyngor neu'r Cabinet gael ei chyflwyno gan Gynghorydd.

Pa faterion y gall fy eDdeiseb ymwneud â nhw?

Dylai eich eDdeiseb fod yn berthnasol i fater y mae gan y Cyngor bwerau neu ddyletswyddau yn ei gylch, neu gyfrifoldebau darparu ar y cyd sydd ganddo amdano. Dylid ei chyflwyno hefyd yn ddidwyll a rhaid iddi fod yn weddus, yn onest ac yn barchus.

Efallai y bydd eich eDdeiseb yn cael ei gwrthod os yw Swyddog Monitro'r Cyngor o'r farn ei bod:

  • yn cynnwys iaith eithafol, lidiol, sarhaus neu bryfoclyd

  • yn ddifenwol, yn wamal, yn flinderus, yn camwahaniaethu neu fel arall, yn sarhaus, neu'n cynnwys datganiadau ffug

  • yn rhy debyg i ddeiseb arall a gyflwynwyd o fewn y chwe mis diwethaf

  • yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu eithriedig, gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir gan orchymyn llys neu adran o'r llywodraeth

  • yn datgelu deunydd, sydd fel arall yn sensitif yn fasnachol

  • yn enwi unigolion, neu'n rhoi gwybodaeth lle gellir eu hadnabod yn hawdd, e.e. swyddogion unigol cyrff cyhoeddus, neu'n gwneud cyhuddiadau troseddol

  • yn cynnwys datganiadau hysbysebu

  • yn cyfeirio at fater sydd ar hyn o bryd yn destun cwyn ffurfiol y Cyngor, ymgynghoriad, cwyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu unrhyw achos cyfreithiol

  • yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio neu drwyddedu'r Cyngor gan fod prosesau statudol ar wahân ar waith ar gyfer delio â'r materion hyn

  • nid yw'n ymwneud â mater y mae gan y cyngor bwerau neu ddyletswyddau yn ei gylch neu gyfrifoldebau cyflenwi ar y cyd amdano

Os byddwn yn penderfynu nad yw deiseb yn dderbyniol, yna byddwn yn rhoi gwybod i drefnydd y ddeiseb am ein rhesymau.

Yn ystod cyfnodau gwleidyddol sensitif, megis cyn etholiad, efallai y bydd yn rhaid cyfyngu ar ddeunydd sy’n wleidyddol ddadleuol.

Nid yw’r cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y deisebau ar y tudalennau gwe hyn. Nid yw'r farn a fynegir yn y deisebau o reidrwydd yn adlewyrchu barn y Cyngor.

Cliciwch y blwch isod i barhau

'Rwyf wedi darllen a cytuno gyda'r telerau ac amodau

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content