Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Adolygiad Gostyngiad Person Sengl: cwestiynau cyffredin


Summary (optional)
start content

Adolygu gostyngiadau person sengl treth y cyngor

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o bob gostyngiad person sengl a gynigir i breswylwyr sy’n byw eu hunain. Rydym yn anelu at roi’r gwasanaeth gorau posibl i’r preswylwyr hyn yn ystod yr adolygiad, drwy gynnig cyfarwyddiadau clir gyda llenwi ffurflenni sydd i’w dychwelyd i’r cyngor.

Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd, gall fod yn anodd egluro rhai amgylchiadau. I helpu gyda’r sefyllfaoedd hyn, rydym wedi cynnwys y cwestiynau mwyaf cyffredin a all godi drwy’r cyfnod adolygu hwn isod.

Pam ydw i wedi cael y llythyr hwn?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar hyn o bryd yn adolygu amgylchiadau’r holl bobl sy’n hawlio’r Gostyngiad Person Sengl. Yn syml, rydym yn dilysu eich dilysrwydd i hawlio Gostyngiad Person Sengl.

Sut ydw i’n llenwi’r ffurflen?

Y ffordd hawsaf i ymateb i’r adolygiad yw drwy ddefnyddio’r gwasanaethau negeseuon testun. Cyfeiriwch yn ôl at eich llythyr am gyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn.

Gallwch hefyd lenwi’r ffurflen ar-lein a rhoi eich Cod Post, Rhif Cyfrif a rhif PIN. Gellir gweld yr holl wybodaeth yma ar eich llythyr.

Fel arall, os hoffech ymateb drwy ddefnyddio’r ffurflen bapur a chi yw’r unig oedolyn yn byw yn yr eiddo, ticiwch y bocs ar y dde ar frig eich ffurflen/o dan Adran A. Ewch ymlaen i Adran B i lenwi manylion unrhyw un sy’n cael post neu sydd â chyfrifon wedi’u cofrestru gyda’ch cyfeiriad. Sylwch: NID yw hyn yn effeithio ar eich hawl i gael y Gostyngiad Person Sengl.

Llenwch Adran D os yw’n gymwys.

Llofnodwch, printiwch eich enw a rhowch y dyddiad ar y ffurflen, a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar waelod tu blaen eich llythyr.

Os nad chi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo mwyach, ticiwch y blwch ar y chwith ar frig eich ffurflen/o dan Adran A. Ewch ymlaen i lenwi Adran B, C a D os yw’r rhain yn gymwys i chi.

Llofnodwch, printiwch eich enw a rhowch y dyddiad ar y ffurflen, a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar waelod tu blaen eich llythyr.

Beth sy’n digwydd os nad ydw i’n dychwelyd y ffurflen?

Byddwn yn cymryd yn ganiataol bod eich sefyllfa wedi newid a byddwn yn diddymu eich gostyngiad, yn effeithiol o 01.04.2024, a fydd yn cael ei gadarnhau yn eich bil newydd. Os byddwch yn methu â dychwelyd y ffurflen wedi’i llenwi, gallwch gael cosb o £70, a fydd yn cael ei hychwanegu at eich bil Treth y Cyngor.

Pa wybodaeth gredyd sydd gennych chi amdanaf i?

Nid oes gennym unrhyw wybodaeth gredyd amdanoch. Os hoffech weld eich ffeil credyd, cysylltwch ag unrhyw un o’r prif asiantaethau credyd:

 

Beth sy’n digwydd os yw’r ffurflen yn cael ei dychwelyd ar ôl y dyddiad terfyn o 14 diwrnod?

Cyn belled bod y ffurflen yn cael ei dychwelyd o fewn cyfnod rhesymol o amser, ni fyddwch yn cael eich cosbi. Os yw’r ffurflen yn hwyr iawn, efallai y cewch lythyr atgoffa. Os byddwch yn methu â dychwelyd y llythyr atgoffa, gallwch gael cosb o £70, a fydd yn cael ei hychwanegu at eich bil Treth y Cyngor. Llenwch y ffurflen fel o’r blaen.

Pam mae’n rhaid i mi ddychwelyd fy ngwybodaeth i gyfeiriad yn Nottingham?

Mae pob ffurflen a ddychwelir yn cael ei thrin gan gyfleuster sganio llywodraeth leol a leolir yn ganolog. Maent yna’n prosesu’r dogfennau ar ran sawl awdurdod lleol.

Beth ddylwn i ei wneud os yw rhywun yn defnyddio fy nghyfeiriad ar gyfer gohebiaeth yn unig?

Dylech gynnwys eu henw a chyfeiriad preswyl llawn yn Adran B o’r ffurflen, ac yna bydd hyn yn cael ei wirio. Nid yw pobl sy’n cael gohebiaeth yn eich cyfeiriad chi’n effeithio ar eich cymhwysedd i gael y Gostyngiad Person Sengl.

Rwyf eisoes wedi rhoi gwybod i’r Cyngor am newid mewn amgylchiadau. Oes angen i mi lenwi’r ffurflen?

Oes. Dylech gynnwys holl fanylion eich sefyllfa bresennol.

Rwy’n cael post ar gyfer preswylwyr blaenorol, beth ddylwn i ei wneud ynglŷn â hyn?

Mae angen i chi ysgrifennu ar yr amlen nad yw’r person yn byw yn y cyfeiriad bellach, ac yna ei ddychwelyd at yr anfonwr.

Ychwanegwch eu henwau at Adran B o’r llythyr.

Mae ffrind yn aros gyda mi 3 neu 4 noson yr wythnos. Ydi hyn yn golygu nad wyf yn gymwys bellach?

Os yw eich ffrind yn cadw eu heiddo yn eich tŷ, yna bydd eich cyfeiriad yn cael ei ddosbarthu fel eu prif breswylfa, felly nid ydych yn gymwys bellach i gael y Gostyngiad Person Sengl.

Gyda phwy mae eich ffrind yn aros am y 3 noson arall o’r wythnos? Os ydynt yn aros mewn cyfeiriadau amrywiol, bydd eich cyfeiriad yn dal i gael ei ddosbarthu fel y prif gyfeiriad

Unrhyw reswm arall, rhowch eglurhad o’ch sefyllfa gyfredol.

Beth y dylwn ei wneud os yw’n anodd egluro fy amgylchiadau, neu’n ymwneud â COVID19?

Os ydych yn dal i fod yn ansicr sut i lenwi’r ffurflen, neu os nad yw eich amgylchiadau wedi’u trafod uchod, llenwch y ffurflen ar-lein yma,  a dewiswch y pedwerydd dewis “Arall (Nid yw fy amgylchiadau’n cael eu cynnwys yn y categorïau uchod” ac ysgrifennwch esboniad mor fanwl â phosibl o’ch sefyllfa bresennol. Sicrhewch eich bod yn rhoi enwau llawn a dyddiadau wrth egluro eich amgylchiadau.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content