Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Lliniaru llifogydd Trefriw


Summary (optional)
Bydd y cynllun hwn yn lleihau amlder cau ffyrdd a achosir gan lifogydd.
start content

Sesiynau galw heibio i’r cyhoedd:

Dydd Llun, 28 Gorffennaf, 1pm - 6pm
Neuadd Bentref Trefriw Trefriw, LL27 0JH

Dydd Mawrth, 29 Gorffennaf, 1pm - 6pm
Canolfan Hamdden Dolgarrog, Dolgarrog, LL32 8JU

Ynglŷn â'r prosiect

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i leihau’r perygl bod Trefriw yn cael ei ynysu yn ystod digwyddiadau o lifogydd.

Cyflawnwyd y cam cyntaf o’r gwaith yn 2024. Cyn dechrau cam cyntaf o’r gwaith, fe weithiom er mwyn sicrhau ein bod yn deall achosion y llifogydd a sut i’w leihau. Roedd hyn yn cynnwys cadarnhau cyfraddau llif, arolygon topograffi a gwaith dylunio.

Beth yw'r problemau?

Yn ystod tywydd garw mae Trefriw yn cael ei ynysu gan ddŵr llifogydd, gan ei wneud yn anodd cael mynediad at wasanaethau brys, ysgolion, siopau a’r gwaith.

Prif achosion llifogydd ar y B5106 yw:

  • lefelau dŵr uchel yn Afon Conwy
  • problemau gyda cheuffosydd cwrs dŵr o dan y B5106

Beth sy'n digwydd?

Mae’r gwaith arfaethedig i leihau llifogydd yn cynnwys:

  • gwneud y ceuffosydd yn fwy a gwella eu cilfachau (2024-2025)
  • codi’r B5106 uwchben lefel llifogydd Afon Conwy (2025-2026)

Bydd y cynllun hwn yn lleihau amlder cau ffyrdd a achosir gan lifogydd.

Beth sydd eisoes wedi digwydd?

Yn ystod 2024/25 fe weithiom ar bum ceuffos cwrs dŵr:

  • Canada Fach - gwneud y geuffos yn fwy a’i sythu
  • Chwarel - gosod sgrin a thynnu cerrig mawr, gwneud y geuffos yn fwy ar draws mynedfa’r chwarel a rhoi pibellau newydd o dan y ffordd
  • Coed Gwydir (gogledd) - gwneud y geuffos yn fwy a sythu’r gilfach
  • Coed Gwydir (de) - gwneud y geuffos o dan y B5106 yn fwy, a chasglu gorlifiadau o’r ffosydd ar Trefriw Terrace i ddraen priffordd newydd
  • Glan Aber - gwneud y geuffos yn fwy a sythu’r gilfach

Beth sy’n digwydd nesaf?

Yn ystod 2025/26, byddwn yn codi’r B5106 yn y mannau isel sy’n mynd o dan lefelau llifogydd afon.

Bydd yn rhaid i ni gau rhan o’r ffordd er mwyn cwblhau’r gwaith hwn. Ni fydd mynediad trwy’r rhan hon o’r ffordd ar adegau - bydd arwyddion yn dangos y gwyriad.

Bydd y cynllun hwn yn lleihau amlder cau ffyrdd a achosir gan lifogydd.

Map y gwyriadau

 

end content