Cartref Preswylwyr Cŵn Cŵn yn baeddu
start content

Mae’n bwysig glanhau ar ôl eich ci.

  • Gofalwch bod gennych fagiau efo chi bob amser i lanhau ar ôl eich ci, gallwch ddefnyddio bagiau clytiau, bagiau plastig ac ati.
  • Taflwch y bag mewn bin baw cŵn, bin sbwriel neu yn eich bin olwynion eich hun.
  • Peidiwch â gadael y bag mewn llwyn nac unman arall gan fod hyn hefyd yn drosedd a allai arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig.
  • Anogwch y ci i ddefnyddio eich gardd.
  • Peidiwch byth a gadael eich ci allan ar ei ben ei hun.
  • Cofiwch drin eich ci am lyngyr yn rheolaidd, mae milfeddygon yn cynghori y dylid gwneud hyn bob tri neu bedwar mis.

Cosbau

Gellid eich dirwyo os nad ydych yn glanhau ar ôl eich ci:

  • £100 yn y fan a’r lle (‘Hysbysiad Cosb Benodedig’)
  • hyd at £1000 os yw’r achos yn mynd i’r llys

Talu dirwy am adael i gi faeddu

end content