Mae Parent Pay yn ddiogel, syml a chyfleus ac yn golygu nad oes angen i’ch plentyn fynd ag arian parod i’r ysgol! Mae’n rhoi rhyddid i chi dalu am brydau ysgol, teithiau a gweithgareddau yn gyflym a diogel ar-lein, pryd bynnag a lle bynnag y dymunwch.
Mae Parent Pay:
- Yn dangos eich balans presennol
- Yn dangos y taliadau rydych chi wedi'u gwneud
- Yn galluogi uno cyfrifon os oes gennych chi fwy nag un plentyn yn yr ysgol
- Yn dangos pob eitem y gallwch chi dalu amdani ar gyfer pob un o'ch plant
- Yn anfon derbynneb o’ch taliad dros e-bost i roi tawelwch meddwl i chi
- Yn gwella’r cyfathrebu rhyngoch chi a’r ysgol
- Yn helpu’r ysgol i fod yn fwy effeithlon wrth ymdrin â thaliadau
Cychwyn Arni
Byddwn yn anfon llythyr cofrestru atoch chi er mwyn i chi allu gosod eich cyfrif ParentPay. Yna, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ychwanegu arian at y cyfrif gyda cherdyn debyd neu gredyd, neu gydag arian parod mewn siopau PayPoint.
Dim ond un cyfrif rhiant sydd ei angen ar gyfer eich holl blant hyd yn oed os ydynt yn mynychu gwahanol ysgolion sy’n defnyddio Parent Pay. Mae cymorth a chefnogaeth ar gael gan ysgol eich plentyn, neu drwy wefan Parent Pay.