Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Iechyd a Diogelwch Tyllu'r croen a thatŵio

Tyllu'r croen a thatŵio


Summary (optional)
Does dim ta-ta i datŵ!
start content

Er mwyn cynnig y triniaethau canlynol yng Nghonwy rhaid i'r person ac eiddo gael eu cofrestru gyda'r Tîm Gwarchod y Cyhoedd:

  • aciwbigo
  • tatŵio
  • tyllu cosmetig gan gynnwys tyllu clustiau
  • electrolysis
  • lliwio croen lled barhaol

Pa mor hen mae'n rhaid i mi fod?

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i gael tatŵ.  Nid oes unrhyw eithriadau i hyn a bydd yr heddlu a'r cyngor yn erlyn unrhyw un sy'n torri'r gyfraith hon.  Yn union fel prynu alcohol, mae'r cyfrifoldeb ar y tatŵydd i sicrhau eu bod wedi gwneud gwiriadau rhesymol i sicrhau bod y person dros 18 oed fel cofnodi tystiolaeth o hunaniaeth gyda llun adnabod. 

Ar gyfer triniaethau eraill argymhellir yn gryf eich bod yn 16 oed o leiaf. 

Does dim ta-ta i datŵ!

Rhaid i Datŵyddion a thyllwyr croen gael eu cofrestru gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac arddangos y dystysgrif gofrestru swyddogol ar y safle.

Bydd y sawl sy'n cynnig y tatŵ neu dyllu’r croen a'r eiddo wedi eu harolygu a'u hasesu gan Swyddogion i sicrhau eu bod yn cwrdd â safonau derbyniol.

Os ydych yn meddwl am gael tatŵ neu dyllu’r corff dylech ddefnyddio busnesau cofrestredig yn unig a fydd yn arddangos y dystysgrif briodol. Peidiwch byth â chael tatŵ neu dyllu’r corff gan rywun sy'n gweithredu o gartref a heb gofrestru. 

Mae’r term ‘Scratchers’ yn cael ei ddefnyddio yn gyffredin i gyfeirio at Datŵyddion anghyfreithlon. Bernir bod ‘Scratchers’ yn gweithredu'n anghyfreithlon ac yn risg i'r cyhoedd oherwydd y gallant fod yn:

  • gweithio o safle nad yw wedi ei gofrestru neu ei arolygu gan y Cyngor.  Maent yn aml yn cael eu gweld mewn ystafelloedd ymolchi, cegin, siediau ac amgylcheddau anaddas eraill.
  • heb gofrestru a gydag ychydig neu ddim gwybodaeth am sut i roi tatŵ i rywun yn ddiogel. Bydd ‘Scratchers’ yn dweud wrthych eu bod yn gwybod beth maent yn ei wneud, ond o'n profiadau ni maent yn aml yn ymgymryd â thatŵio anniogel ac aflan.
  • defnyddio offer rhad sydd wedi ei brynu o wefannau arwerthiant yn hytrach na chyflenwr masnach addas

Efallai y cewch eich temtio oddi wrth Datŵyddion cofrestredig gan brisiau rhad a gynigir gan y ‘scratchers’. Fodd bynnag, nid yw’n werth y risg - gallai gael canlyniadau a all newid bywydau. Mae'r arfer o datŵio yn peri risg o heintiau firws fel Hepatitis a HIV a heintiau bacteriolegol.  

Ni fydd y person sy'n cynnig rhoi’r tatŵ a’r safle wedi eu hasesu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i sicrhau eu bod yn cwrdd â safonau derbyniol. Efallai na fydd y ‘scratcher’ wedi cael hyfforddiant priodol ac mae’n llai tebygol o wirio hanes meddygol neu oedran eu cwsmeriaid hefyd. O ganlyniad, os ydych yn chwilio am fargen rydych yn gwneud eich hun yn agored i risgiau llawer uwch o heintiau a chreithiau parhaol nag arfer.

Stiwdios tatŵ cofrestredig

Os ydych yn meddwl am gael tatŵ, dylech ddefnyddio stiwdios tatŵ cofrestredig yn unig. Mae pob un o'r busnesau a restrwyd wedi eu cofrestru gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a byddant yn arddangos y dystysgrif gofrestru swyddogol ar y safle.

Tatŵio Anghyfreithlon / ‘Scratchers’

Os ydych yn gwybod am unrhyw un sy'n tatŵio’n anghyfreithlon rhowch wybod i ni a byddwn yn ymchwilio. Rydym yn cymryd tatŵs anghyfreithlon yn ddifrifol iawn. Lle bo angen, byddwn yn atal tatŵs anghyfreithlon, weithiau gyda chymorth yr heddlu, yn monitro'r sefyllfa ac erlyn Tatŵyddion anghyfreithlon.

end content