Os ydych chi’n adnewyddu eiddo heb ei feddiannu, efallai y byddai’n bosib elwa o gyfradd TAW gostyngedig ar waith adnewyddu.
Er mwyn cael eich ystyried, mae'n rhaid i'r eiddo fod wedi bod yn wag ers 2 flynedd o leiaf, ac yn uniongyrchol cyn dechrau'r gwaith adnewyddu.
Mae canllawiau CThEM yn nodi bod llythyr gan yr Awdurdod Lleol yn cadarnhau bod yr eiddo wedi bod yn wag am y cyfnod cymhwyso yn gwbl dderbyniol.
Os ydych chi’n meddwl eich bod yn gymwys llenwch y ffurflen isod neu cysylltwch â Jeremy Grant ar
Noder na allwn ddweud wrthych beth sy’n gymwys na chadarnhau bod cyfradd TAW gostyngedig yn berthnasol i’ch eiddo. CThEM sy’n penderfynu ar y materion hyn.