Ar unrhyw adeg, mae oddeutu 1,500 o eiddo gwag yn sir Conwy. Er y bydd llawer o’r rhain yn dod yn ôl i ddefnydd yn naturiol, bydd rhai yn parhau’n wag am gyfnodau hirach. Gall eiddo gwag fynd i edrych yn flêr yn gyflym a denu problemau a all achosi problemau i gymdogion a’r gymuned leol.
Perchnogion cartrefi gwag
Mae cartrefi gwag yn gostus. Mae’r costau sydd ynghlwm â cholli rhent, dirywiad, fandaliaeth, yswiriant, diogelwch a phremiymau Treth y Cyngor yn cynyddu’n gyflym. Mae’r Cynllun Cartrefi Gwag yn anelu at gysylltu perchnogion tai gwag, landlordiaid a phrynwyr tro cyntaf i helpu i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.
Rhoi gwybod am gartref gwag
Rhoi gwybod am gartref gwag.
Am ragor o wybodaeth gweler ein Strategaeth Cartrefi Gwag.
Nesaf: Cymorth ariannol i berchnogion tai gwag