O ganlyniad i’r Coronafeirws, rydym yn dal methu cynnal y fforwm fel arfer.
Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn eto yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl (NRLA) ac yn cynnal Fforwm Landlordiaid Conwy nesaf fel Gweminar.
Fe'ch gwahoddir i fynychu Gweminar Fforwm Landlordiaid Conwy.
Ddydd Iau 28 Ionawr 6.00pm – 7.30pm
Ymunwch â ni yn yr ystafell aros o 5.45pm.
- Diweddariad deddfwriaeth a Covid-19, Calum Davies, NRLA
- 5 mlynnedd o Doeth Rhentu Cymru, Be’ sy’mlaen? Bethan Jones, DRC
- Ynghyd â gwybodaeth arall i landlordiaid
Cofrestrwch ar gyfer y Weminar drwy anfon e-bost atom ni yn Housingstrategy@conwy.gov.uk
Caiff y weminar ei recordio a bydd ar gael ar ôl y digwyddiad.
Gweminarau Blaenorol
Fforwm Landlordiaid Conwy Hydref 2020
Roedd fforwm mis Hydref 2020 yn cynnwys:
- diweddariad cynhwysfawr ar ddeddfwriaeth Cymru a’r DU yn effeithio landlordiaid preifat;
- grant newydd i landlordiaid allu defnyddio eiddo gwag yng Nghonwy fel anheddau;
- cais i landlordiaid ymateb i holiadur gan y sefydliad Cartrefi Cynnes i gefnogi’r cynnig ariannu.
Fforwm Landlordiaid Conwy Gorfennaf 2020
Roedd fforwm mis Gorffennaf 2020 yn cynnwys:
- adolygiad cynhwysfawr o ddeddfwriaeth a pholisi sy’n effeithio ar landlordiaid yng Nghymru ers mis Ionawr,
- Trefniadau lleol ar gyfer trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth.
- Cyngor am reoli eiddo yn ystod pandemig y coronafeirws
- Newyddion am gynllun prydlesu â chymhorthdal newydd Llywodraeth Cymru
- Gwybodaeth ynghylch benthyciadau ar gyfer datblygwyr eiddo i gynyddu cyflenwad o eiddo rhent
