Gwybodaeth i landlordiaid preifat presennol neu ddarpar.
Rhaid i bob landlord yng Nghymru fod wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru.
Fforwm Landlordiaid Conwy
Mae’r fforwm yn gyfle i landlordiaid glywed newyddion, gofyn cwestiynau, cwrdd â landlordiaid eraill a chlywed am wasanaethau a fyddai efallai o ddiddordeb. Cofrestrwch i Fforwm Landlordiaid Conwy.
Deddf Rhentu Cartrefi
Mae gan Lywodraeth Cymru wybodaeth am yr hyn y mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 2022, yn ei olygu i landlordiaid a sut mae eiddo'n cael ei rentu allan..
Effeithlonrwydd ynni
Rhaid i’r rhan fwyaf o eiddo a osodir yn breifat gael graddfa tystysgrif perfformiad ynni o E neu uwch. Gall rhai eiddo fod wedi eu heithrio o’r safon hwn am amrywiaeth o resymau, am wybodaeth gweler canllawiau Llywodraeth y DU ar eithriadau i'r Rheoliadau Effeithlonrwydd Ynni Isafswm.
Gall landlordiaid sy'n creu tenantiaeth ar gyfer eiddo sydd heb ei eithrio graddfa F neu G gael eu dirwyo. Ers 1 Ebrill 2020 mae'n anghyfreithlon i landlordiaid barhau i osod eiddo graddfa F neu G.
Os oes gennych eiddo is-safonol, cysylltwch â ni am gyngor a chymorth cyn i chi roi rhybudd i denantiaid.
Caethwasiaeth fodern
Mae tai yn chwarae rôl bwysig wrthhwyluso camfanteisio; efallai mai dyma ble mae'r camfanteisio’n digwydd, erenghraifft, mae caethwasanaeth domestigyn digwydd mewn cartrefi preifat. Hefyd, dyma ble y caiff dioddefwyr eu lletya - a hynny'n aml mewn amodaugwael. Yn aml, bydd y sawl sy'n camfanteisioyn defnyddio tai fel ffordd o reoli eudioddefwyr drwy godi crocbris arnynt.
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi Caethwasiaeth Fodern a Thai - Canllaw i'r Sector Rhentu Preifat (dogfen PDF)
Nesaf: Rhentu ystafell neu eiddo