Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Tystebau Myfyrwyr Cefn Gwlad


Summary (optional)
Sut y bu i’n myfyrwyr raddio eu profiad o leoliad
start content

Lleoliad Gwaith Warden Cefn Gwlad 2022

 

Jenny

JennyAccessWorkCapelCurig

"Rwyf wedi mwynhau fy amser ar leoliad gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Fel rhywun a ymgeisiodd am y lleoliad i ennill sgiliau a gwybodaeth berthnasol heb radd berthnasol, gan obeithio camu i’r sector bywyd gwyllt/cadwraeth - mae’r lleoliad hwn wedi fy narparu ag ystod o sgiliau a gwybodaeth ymarferol i weithio o fewn y sector.

"Mae’r 10 mis diwethaf wedi bod yn llawn tasgau amrywiol megis cynnal a chadw gwarchodfeydd natur, ymgysylltu â’r cyhoedd a dysgu sgiliau prosesu data. Rydym wedi gweithio ymhob tymor a thywydd - ac mae hynny wedi rhoi golwg boddhaus a llawn gwybodaeth i mi o weithio yn y sector dydd i ddydd, ac rwyf wedi mwynhau’n fawr.

"Mae’r lleoliad wedi rhoi hyblygrwydd i mi ddewis pa gyfeiriad i fynd gyda fy hyfforddiant, er mwyn gweddu fy niddordebau ac o bosibl beth hoffwn ganolbwyntio arno yn y dyfodol.

"Rwyf wir wedi mwynhau fy amser yma, yn gweithio fel rhan o’r tîm. Rwy’n teimlo’n ddiolchgar iawn am y cyfle."

 

Jody

JodyTristanSimonTreePlanting CROP

"Mae’r lleoliad hwn wedi rhoi profiad ymarferol gwerthfawr i mi, gan roi mantais i mi dros fyfyrwyr ôl-raddedig eraill sy’n chwilio am yrfa yn y sector. Mae gweld gwaith dydd i ddydd go iawn yn y sector hwn wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor dda rwy’n gweddu yn y sector hwn.

"Mae gweithio tu allan ymhob tymor a thywydd wedi bod yn hynod o ddiddorol a boddhaus, gan weld y gwarchodfeydd yn newid yn ôl y tymhorau.

"Rwy’n teimlo fy mod wedi ennill gwybodaeth ar fonitro a rheoli coed a phlanhigion, na chefais drwy fy ngradd sŵoleg.

"Mae’r gyllideb hyfforddi a chyfleoedd rhwydweithio wedi gwneud y lleoliad hwn yn wych ac rwy’n falch iawn o fod yn rhan ohono."

 

Lleoliad Gwaith Warden Cefn Gwlad 2021

 

Chris and Joe (Countryside Warden placement 2021)

Joe

"Rydw i ar ganol cwrs Sŵoleg gyda Sŵoleg y Môr BSc (Anrh) ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r lleoliad gwaith 10 mis hwn wedi bod yn brofiad anhygoel a dweud y lleiaf. O osod grisiau i godi sbwriel, dw i wedi mwynhau pob rhan ohono. Mae’r lleoliad wedi fy helpu i dyfu fel unigolyn.  O ychwanegu’r profiad gwaith hwn at fy CV, dw i’n gobeithio y bydd yn gwella fy nghyfle o gael gwaith mewn maes tebyg yn y dyfodol yn sylweddol.

"Yr agwedd dw i wedi ei mwynhau fwyaf yw’r ochr ymarferol. Dw i wrth fy modd yn yr awyr agored yn gosod meinciau, grisiau, yn trwsio pyst marcio yn y glaw neu’r heulwen. Dw i’n falch iawn fy mod wedi bod allan yn dysgu mwy am y bywyd gwyllt lleol, yn hytrach nag yn casglu’r sgiliau adnabod hynny o theatr ddarlithio yn y Brifysgol.

"Dw i’n wirioneddol drist fod y cyfnod yn dod i ben, mi fyddwn wrth fy modd petai’n barhaol gan fy mod yn teimlo fy mod wedi canfod tîm sydd yn fy ngwerthfawrogi ac yn ofalus ohonof.

"I unrhyw fyfyriwr, neu unrhyw un sydd yn chwilio am gyfle i gael profiad, byddwn i bendant yn argymell y lleoliad gwaith hwn."


Chris

"Dw i’n ddiolchgar iawn am y 10 mis dw i wedi ei dreulio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Pan wnes i gais am y swydd ro’n i’n gwybod fy mod yn mwynhau gweithio yn yr awyr agored a bod mewn swydd sy’n wahanol bob dydd, ac roedd y lleoliad gwaith hwn yn gyfle i fi wneud hynny’n union.

"Bellach mae gen i brofiad go iawn o weithio yn y sector amgylcheddol a chadwraeth – beth mwy allwn i ofyn amdano mewn lleoliad gwaith?

"Mae’r lleoliad gwaith warden cefn gwlad yn arbennig o amrywiol a dw i wedi cael y cyfle i ddatblygu fy sgiliau mewn amryw o feysydd, o ddeall y pethau elfennau am sut mae ecosystemau yn gweithio drwy'r tymhorau, i sgiliau DIY ymarferol, a gweithio ar gyhoeddusrwydd ar gyfer y gwarchodfeydd natur hyd yn oed.

"Dw i’n ddiolchgar iawn am yr hyblygrwydd o fewn fy lleoliad i gael canolbwyntio ar beth sydd o fwyaf o ddiddordeb i fi, fe wnaeth fy helpu i gael y profiad gorau posib."



Lleoliad Warden Mynediad 2019-20

 

Countryside-Students-2019-201

Jordan (Myfyriwr, Prifysgol Bangor)

"Bu’n brofiad gwych.  Rwyf wedi mwynhau bob munud ohono!

"Wedi dysgu cymaint am gadwraeth a rheoli na fyddwn erioed wedi ei gael o eistedd mewn dosbarth.

"Mae'r cynllun lleoliad wedi bod yn wych ac rwy’n cael dweud pa gyfeiriad rwyf eisiau ei gymryd yn fy hyfforddiant er mwyn i mi astudio rhywbeth sydd o wir ddiddordeb i mi.

"Mae’r swydd Warden Mynediad yn golygu eich bod yn cael gweld rhannau o Ogledd Cymru sydd fwyaf hardd ond yn llai adnabyddus ac yn eich helpu i gael profiad ym mhob agwedd ar gadwraeth, o sgiliau adnabod i DIY."


Izzy (Myfyriwr, Prifysgol Aberystwyth)

"Cyfle gwych i ddeffro eich meddwl ymarferol a phrofiad o weithio yn yr awyr agored trwy’r dydd. Gall fod yn anodd yn y glaw a’r gwynt ond ar ôl i chi gwblhau’r gwaith nid oes gwell teimlad. Rydych yn cael llawer o gyfrifoldeb ond mae’n deimlad da cael bod yn rhan o dîm.

"Mi wnes i fwynhau trwsio stepiau ac ailadeiladu ffensys fwyaf, bob tro roeddwn yn dychwelyd i’r gwarchodfeydd natur, roeddwn yn gallu gweld a gwerthfawrogi fy ngwaith dro ar ôl tro.

"Mae'r gwaith hwn yn eithaf anodd ond os ydych wir yn mwynhau bod y tu allan a datrys problemau bydd y lleoliad hwn yn wych i chi."



Lleoliad Warden Cefn Gwlad 2019-20

 

Mollie (Myfyriwr)

"Mae’r lleoliad hwn wedi rhoi profiad amhrisiadwy i mi yn arbennig mewn adnabod coed a phlanhigion.

"Roedd cael mynediad i dywyswyr a dod a hwy ar ddiwrnodau cynnal a chadw wedi dysgu cymaint i mi. Roedd bod gyda’r warden i gadarnhau neu wrthod ein hadnabyddiaeth yn wirioneddol ddefnyddiol.

"Rhoddodd lawer o gyfleoedd i mi hefyd weithio ar feysydd penodol o wendid ac addasu'r lleoliad i fy anghenion.

"Heb sôn am y sgiliau ymarferol a’r cyfleoedd i ddefnyddio taclau."

end content