Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwaith cyfredol: Llandrillo-yn-Rhos: Gwelliannau i Amddiffynfeydd Arfordirol


Summary (optional)
start content

Dyma Gam 2b Prosiect Glan Môr Bae Colwyn, sydd wedi bod yn gwella amddiffynfeydd arfordirol a mannau cyhoeddus ar hyd arfordir Bae Colwyn ers 2011.

Rydym yn gwella'r amddiffynfeydd arfordirol drwy fewnforio oddeutu 1 miliwn tunnell o dywod i'w osod o flaen y morglawdd presennol. Bydd hyn yn amddiffyn y morglawdd a'r eiddo a'r seilwaith y tu ôl iddo rhag bygythiad parhaus y môr a lefelau newid hinsawdd arferol.

Bydd tywod wedi’i fewnforio yn ffurfio’r brif amddiffynfa fôr ar hyd y rhan hon o’r arfordir, wrth fod yn draeth deniadol i’w fwynhau beth bynnag fo’r llanw.

Mae’r gwaith arfordirol hefyd yn cynnwys ymestyn nifer o ollyngfeydd i lawr i’r traeth is, ac addasu grwyn cerrig wrth Harbwr Rhos. Bydd y grwyn gorffenedig yn uwch ac yn ehangach a bydd braich newydd yn cael ei hychwanegu i greu dyluniad cynffon pysgodyn. 

Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys gwelliannau i’r promenâd, gan ei ehangu i ddarparu mwy o le i gerddwyr a beicwyr ac uwchraddio’r celfi stryd a goleuadau. Rydym yn ychwanegu mannau chwarae a mannau hamdden, cysgodfannau, planwyr, celf gyhoeddus a lleoedd digwyddiadau.

Cyllid

Cyfanswm cost y prosiect yw £20m. Mae Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol Llywodraeth Cymru yn ariannu 85% o’r gwaith, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ariannu’r 15% arall.

PartFundedByWelshGovernment

Cysylltwch â ni

Mae rhagor o wybodaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar:

  • Wefan Alun Griffiths Construction: www.community.alungriffiths.co.uk
  • Hysbysfwrdd y safle ar Bromenâd y Gorllewin


Os hoffech siarad â rhywun am y gwaith adeiladu, cysylltwch ar y manylion canlynol:

Os bydd angen rhagor o wybodaeth am y prosiect arnoch, cysylltwch â Thîm Cyngor yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych bryderon am y gwaith hwn

 

Cwestiynau Cyffredin

A fydd y traeth ar gau?

Bydd angen cau rhannau o’r traeth i’r cyhoedd ar amryw adegau er mwyn caniatáu i’r gwaith gael ei wneud yn ddiogel. Fe fydd yr ardaloedd penodol a gaiff eu cau yn newid yn rheolaidd wrth i’r gwaith ddatblygu. Fe fyddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar hysbysfwrdd y safle a gwefan a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

A all cerddwyr a beicwyr ddefnyddio’r promenâd o hyd?

Bydd rhai rhannau o’r promenâd ar gau er mwyn caniatáu i’r gwaith adeiladu gael ei wneud yn ddiogel. Fe fyddwn yn lleihau’r amhariad hwn cyn belled ag sy’n ddiogel, a bydd llwybr gwyro diogel yn cael ei ddarparu.

Bydd llwybr i gerddwyr a beicwyr ar hyd gwaelod Arglawdd Cayley.

O le mae’r tywod yn dod a sut fydd yn cyrraedd y traeth?

Fe fydd y tywod yn cael ei garthu o safle chwarel ddynodedig ym Mae Lerpwl, tu ôl i’r ffermydd gwynt. Pan fydd y peiriant carthu yn cyrraedd y bae, bydd yn docio ar ben pibell 1.5km o hyd. Bydd tua dau draean o’r bibell ar wely’r môr, a bydd traean ohono yn arnofio ar y môr er mwyn caniatáu i’r llong ddocio arno. Yna bydd y peiriant carthu yn pwmpio’r tywod i’r traeth trwy’r bibell darparu tywod, a bydd peiriannau tyrchu ar draciau yn taenu’r tywod i’r lefel gywir.

Beth sy’n digwydd gyda’r ciosgau?

Rydym wedi sicrhau cyllid i ddisodli’r ciosgau presennol gyda chyfleusterau modern. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n contractwyr a thenantiaid y ciosgau presennol i’w cadw ar agor gyhyd ag sy’n bosibl cyn iddynt gael eu dymchwel.

Dangosir lleoliadau’r ciosgau newydd ar y cynllun wedi’u rhifo’n 11 a 12

Sut fydd hyn yn effeithio ar barcio?

Ni fydd y mannau parcio yn y rhan hon o Bromenâd y Gorllewin ar gael yn ystod y gwaith, oherwydd bydd y ffordd wedi cau.

Sut fydd hyn yn effeithio ar draffig?

Yn ystod y gwaith adeiladu, caiff yr holl draffig ei ddargyfeirio i fyny a thros arglawdd Cayley.

Sut fydd hyn yn effeithio ar gludiant cyhoeddus?

Ni ddylai fod effaith sylweddol ar gludiant cyhoeddus oherwydd nad yw’r rhan o’r promenâd a fydd ar gau ar lwybr bws rheolaidd.

Beth sy’n digwydd gyda gosodiad arfaethedig y ffordd?

Fe fyddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus pellach ar osodiad terfynol y ffordd dros y misoedd nesaf. Fe fyddwn yn darparu diweddariadau ar ein gwefan ac ar hysbysfwrdd y safle.

Pam fyddwch chi’n dechrau’r gwaith hwn yn yr haf?

Fe fydd y cynllun hwn yn cymryd 12 mis i’w gwblhau, sy’n golygu y byddem yn gweithio trwy dymor yr haf un flwyddyn, pryd bynnag fyddai’r gwaith yn dechrau. Mae rhesymau ymarferol ac amgylcheddol dros gwblhau'r gwaith maethu’r traeth dros yr haf hefyd, fel bod angen môr tawel, ac osgoi tymor adar gaeafu. Rydym yn disgwyl i’r promenâd newydd fod yn barod ac ar agor yn ystod haf 2023.

end content