Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Teithiau Gwarchodfa Natur Leol Coed Pwllycrochan


Summary (optional)
start content

Coetir hyfryd yng nghanol tref Bae Colwyn.  Mae'r coed bron i gyd yn gollddail gydag amrywiaeth o goed brodorol a rhywogaethau egsotig fel y gastanwydden felys. Mae llawer o lwybrau troed yn rhedeg trwy'r coetir ac mae nifer o'r rhain â chyfeirbwyntiau i'ch cynorthwyo i archwilio'r safle. Mae 4 taith gerdded gylchol, sy'n amrywio rhwng ¾ a 1 ¼ milltir. Mae pob un yn eich arwain trwy'r darn hynafol o Goed Pwllycrochan gan eich cynorthwyo i ddarganfod ei hanes a'i fywyd gwyllt. 

Pa fath o daith gerdded yw hon?

  • Tir: Llwybrau coedwig, serth mewn mannau
  • Pellter: ¾ milltir i 1 ¼ milltir yn dibynnu ar y llwybr yr ydych yn ei ddewis
  • Cŵn: Dylai cŵn gael eu cadw o dan reolaeth bob amser
  • Lluniaeth: Ar gael yn lleol ym Mae Colwyn
  • Graddfa’r daith gerdded: Hawdd / cymedrol
  • Map: Os hoffech chi brynu map sy’n dangos y llwybr hwn, y mapiau y byddwch eu hangen yw’r Explorer OL17. Gallwch fynd draw i wefan Arolwg Ordnans i gael rhagor o wybodaeth neu i brynu eich map, neu mae’r mapiau hyn ar gael i’w prynu mewn nifer o siopau ar y stryd fawr. Gallwch lawrlwytho cerdyn y llwybr ar gyfer y daith hon isod, ond rydyn ni wastad yn argymell mynd â map OS yn ychwanegol at unrhyw daflen

Sut i gyrraedd

  • Gyda Bws: Traveline Cymru: 0871 200 22 33 www.travelinecymru.info
  • Gyda Char: Dilynwch yr A55 i gyffordd 20, gan droi i’r dde ar y B5115. Yn y gylchfan cymrwch y troad cyntaf ar yr A457 Ffordd Conwy. Trowch i’r dde ar y B5113 Kings Road, yna troi i’r chwith ar Old Highway. Trowch i’r dde ar Pen y Bryn Road a bydd Pwllycrochan ar y chwith.

Paratowch!

Map

end content