Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Taith Gerdded Caerhun


Summary (optional)
start content

Taith ysgafn o Tal-y-Cafn ar hyd Afon Conwy ac heibio Eglwys Santes Fair a Gaer Rhufeinig Kanovium i bentrefi Pontwgan a Tyn-y-Groes. Golygfeydd trawiadol o Eryri a Dyffryn Conwy.

Sut Fath o Daith yw Hi?

  • Math o Dir: Hawdd i'w gerdded, rhai dringfeydd hawdd.
  • Pellter: Tua 3 milltir. 4 ½ yn cynnwys y daith estynedig.
  • Amser: Dwy awr (tair gan gynnwys y daith estynedig).
  • Llwybrau: Llwybrau trwy gaeau, traciau a ffyrdd B. 11 camfa, 2 giât. Gan gynnwys y daith estynedig, 12 camfa a 7 giât.
  • Cŵn: Cadwch eich ci dan reolaeth dynn.
  • Cyfeirnod grid Dechrau a Gorffen:  SH 788717. Tal-y-Cafn. Map: Explorer OL17.

Cymerwch Ofal!

  • Cadwch ar yr ochr dde mewn llinell sengl pan yn cerdded ar hyd ffyrdd.
  • Mae esgidiau addas yn hanfodol ar gyfer cerdded drwy gydol y flwyddyn.

Sut ydw i'n Mynd Yno?

  • Efo trên: Mae yna arhosfan ar gais yn Nhal-y-Cafn ar reilffordd Dyffryn Conwy.Ffôn: 0845 7484950  Gwefan: www.nationalrail.co.uk
  • Efo bws: Ffôn: Traveline Cymru 0871 200 22 33  www.travelinecymru.info
  • Efo car: Dilynwch yr A470 i Tal-y-Cafn. Trowch ar yr B5279 er mwyn cael parcio.

Mapiau:


Y Côd Cefn Gwlad

end content