Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Neuadd Ni


Summary (optional)
start content

Disgrifiad cryno

Gofod cymunedol aml-swyddogaeth wedi’i adnewyddu i’w logi yng nghanol tref Conwy, gyda dau ofod i’w llogi a chyfleusterau cegin i’w rhannu. System wresogi effeithlon newydd sbon, golau y gellir ei bylu, llwyfan hyblyg, byrddau, cadeiriau a chegin rhannol fasnachol gyda’r holl gyfarpar.

Manylion y brif neuadd

Ar gyfer grwpiau cymunedol, dosbarthiadau, gigiau, arddangosfeydd, perfformiadau, ymarferion, ffeiriau, partïon, gweithdai, gwerthu a digwyddiadau. Oddeutu 20m x 5m, mae’r neuadd yn gallu eistedd 130 yn gyfforddus gyda llwyfan ac ardal far, ac mae posib i 200 sefyll yn dibynnu ar gynllun y llwyfan. Mynediad uniongyrchol at y gegin.

Manylion y gegin

Offer gradd fasnachol, gan gynnwys peiriant golchi llestri, popty, oergell a rhewgell fawr, dau sinc a sinc golchi dwylo ar wahân. Llawn cyfarpar gan gynnwys sosbenni, padelli, llestri, cyllyll a ffyrc, offer, 2 wrn te, tegell, microdon, llieiniau a gwydrau.

Manylion yr ystafell fach

Gofod llai wedi’i garpedu, yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd neu ddosbarthiadau / gweithdai llai. Mae’r gofod yn gallu eistedd 20 yn gyfforddus yn dibynnu ar gynllun yr ystafell, ac mae'n rhannu’r gofod gyda banc bwyd Bags of Love, gyda’u silffoedd ar hyd y waliau. Mynediad uniongyrchol at y gegin yn ogystal ag agorfa weini, mynediad annibynnol yn y cefn er mwyn atal gwrthdaro â’r gofod neuadd mwy.

Unrhyw gyfleusterau eraill

Toiledau wedi’u hadnewyddu, un gyda mynediad anabl, dolen sain, byrddau crwn 7 x 6 troedfedd, 120 o gadeiriau plygu, 20 o gadeiriau gwledda. Offer golau ac AV trwy drefniant.

Manylion cyswllt ar gyfer ymholiadau ac archebion

Enw: Nic Davies-Nolan
E-bost: 5churchinfo@gmail.com
Gwefan i gael mwyn o wybodaeth, gwirio argaeledd ac archebu - www.caruconwy.com/neuaddni

end content