Lleoliad
Ffordd Tywyn
 Tywyn
Conwy
 LL22 9EN 
Mynediad hefyd o Lys Glyndŵr
Cyfleoedd chwarae
Mae gan Tir Prince 2 ardal chwarae wedi'u ffensio sydd wedi cael eu datblygu diolch i gefnogaeth a chyllid gan WREN Recycling Ltd, y diweddar Gynghorydd William Knightly, Cyngor Tref Bae Cinmel a Chyfeillion Parc Tir Prince.
- Llithren
 
- Siglenni crud
 
- Siglenni fflat
 
- Si-so
 
- Unedau sbringiau
 
- Cylchfan chwarae gyda rhwyd raffau
 
- Paneli chwarae
 
- Rhwyd ofod
 
- Cysgodfan
 
- Uned chwarae
 
- Siglen sglefr-fyrddio
 
- Uned gemau aml-ddefnydd gyda goliau pêl-droed a rhwydi pêl fasged
 
- Mae yna ardaloedd llydan ac agored o wair i chwarae arnynt a chae pêl-droed maint llawn
 
Hygyrchedd
Mae'r parc a’r ardal chwarae'n wastad gyda llwybrau mynediad da a giatiau. Mae yna siglenni basged mawr ar gyfer plant â symudedd cyfyngedig a chylchfan chwarae gynhwysol yn yr ardal chwarae i blant bach (nid cylchfan chwarae cadair olwyn).
Cyfleusterau
Mae campfa a pharc sglefrio gerllaw. Mae yna siopau, difyrion a chaffis gerllaw ar Ffordd Tywyn. Mae'r toiledau agosaf ar Ffordd y Twyni, Tywyn (5 munud ar droed).