Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymgynghoriad ardal chwarae Tan y Fron


Summary (optional)
start content

Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 30 Tachwedd 2023.


Darllenwch adborth yr ymgynghoriad.

Rydym yn bwriadu uwchraddio ardal chwarae Tan y Fron yn Neganwy.

O le daw’r cyllid?

Telir am yr uwchraddio gan gyfraniad y datblygwr o stâd Pentywyn Road.  Gelwir hyn yn aml yn gyllid Adran 106.

Pam fod angen uwchraddio'r ardal chwarae?

  • Mae rhai o'r offer a'r arwynebau diogelwch yn hen neu wedi treulio ac mae angen cael rhai newydd yn eu lle
  • Mae trigolion lleol wedi gofyn am fwy o ddarpariaeth chwarae, yn enwedig i blant bach
  • Cyfleoedd chwarae cynhwysol cyfyngedig sydd yn yr ardal chwarae ar hyn o bryd

Pa offer sy'n aros?

  • Y ffrâm ddringo fawr i blant bach, y si-so a'r polyn troelli
  • Y siglen fasged, a fydd ag arwyneb diogelwch newydd

Beth sy’n newydd?

Mae yna 5 dyluniad a awgrymir ar gyfer yr uwchraddio.  Gellir cynnwys elfennau o unrhyw un o'r opsiynau yn y dyluniad terfynol. Hoffem wybod eich hoffterau o ran thema, cynllun, offer ac ystod oedran yr ardal chwarae.

Byddwn yn defnyddio'r adborth hwn i gwblhau'r dyluniad.

Cymerwch olwg ar y dyluniadau a defnyddiwch yr holiadur i ddweud wrthym beth rydych yn ei hoffi.

Dyluniadau â awgrymir

Dyluniad A

  • Wyneb thema forol
  • 2 siglen fflat a 2 siglen crud
  • Uned ddringo ar thema cychod (18 mis - 6 oed)
  • Trawst cydbwyso (18 mis - 6 oed)
  • Rowndabowt dysgl (3-8 oed)
  • Rowndabowt cadair olwyn/ cynhwysol (3-14 oed)
  • Sbring cwch (18 mis - 6 oed)
  • Sbring siarc (18 mis - 6 oed)
  • Si-so (18 mis - 6 oed)

Dyluniad B

  • Uned aml-chwarae fawr i blant bach (2+ oed)
  • 2 siglen fflat a 2 siglen crud
  • Powlen droelli (4+ oed)
  • Sbring draig (1+ oed)
  • Rowndabowt cadair olwyn/cynhwysol (3+ oed)

Dyluniad C

  • Rowndabowt cadair olwyn/ cynhwysol (3+ oed) - Wedi'i leoli'n agosach at giât y fynedfa
  • Uned aml-chwarae fawr i blant bach/babanod (6 mis+)
  • 2 siglen fflat a 2 siglen crud
  • Powlen droelli (1+ oed)
  • Sbring seren (2-8 oed)
  • Sbringer 4 ffordd (2+ oed)
  • Rotor uwchben (6+ oed)

Dyluniad D

  • Ffrâm ddringo plant bach/babanod (1+ oed)
  • 2 siglen fflat a 2 siglen crud (heb eu dangos)
  • Powlen droelli (4+ oed)• Sbring draig (1+ oed)
  • Rowndabowt cadair olwyn/ cynhwysol (3+ oed) (heb ei ddangos)
  • Hamog (1+ oed)
  • Trawst cydbwyso

Dyluniad E

  • Uned aml-chwarae ar thema tractor (2+ oed)
  • 2 siglen fflat a 2 siglen crud
  • Powlen droelli (4+ oed)
  • Sbring draig (1+ oed)
  • Rowndabowt cadair olwyn/ cynhwysol (3+ oed)
  • Trawst cydbwyso
end content